Cymru’n symud yn nes at gynnig gofal i bob plentyn

Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ar y trywydd iawn, bellach, i gynnig 12.5 awr yr wythnos o ofal a ariennir gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, sy’n nodi carreg filltir sylweddol yn nhaith Llywodraeth Cymru tuag at gynnig gofal i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.

Mae awdurdodau lleol wedi nodi y byddant, yn sgil y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd eleni, yn gallu cwblhau’r gwaith o gyflwyno cam cyntaf y rhaglen ehangu, gan ddarparu 12.5 awr o ofal yr wythnos wedi’i ariannu i bob plentyn dwy oed ledled Cymru.

Mae hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu sylfaen system ofal ar gyfer pob plentyn cyn diwedd ei blwyddyn gyntaf, ac mae ariannu gofal i bob plentyn dwy oed yn gam cyntaf sylweddol.

Gall rhieni ddarganfod mwy am y gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd drwy gysylltu â’u Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.

Bydd camau ehangu gofal plant Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar:

  • Y cam presennol: cwblhau’r broses o gyflwyno 12.5 awr o ofal wedi’i ariannu i bob plentyn dwy oed ledled Cymru
  • Camau i ddod:
    • cynyddu’r cymorth i blant dwy oed i 20 awr yr wythnos am 48 wythnos, a gweithio gyda darparwyr gofal plant i ehangu’r cynnig estynedig i bob plentyn tair a phedair oed
    • adeiladu ar y cynigion hyn cyn ymestyn y cymorth i blant rhwng naw mis a dwy oed.

Ar ddechrau’r tymor Seneddol hwn ym mis Mai, dim ond tri awdurdod lleol oedd yn darparu gofal a ariennid gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed. Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau cadarnhaol, mae disgwyl, bellach, i bob awdurdod lleol ei gyflwyno’n llawn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Bydd yr ehangu yn helpu mwy o deuluoedd i gael mynediad at ofal plant fforddiadwy, yn cefnogi rhieni a gofalwyr i weithio neu hyfforddi, ac yn sicrhau bod mwy o blant yn elwa o brofiadau o ansawdd uchel yn y blynyddoedd cynnar.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams:

“Mae cymorth gofal plant i deuluoedd yn un o’r dulliau allweddol sydd gennym i fynd i’r afael â thlodi, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, cefnogi ein heconomi a gwella canlyniadau addysgol.

“Mae hyn yn newyddion ardderchog i bob teulu ac yn profi ymrwymiad yr awdurdodau lleol wrth yrru’r ehangiad hwn ymlaen.

“Ychydig fisoedd yn ôl, dim ond tri awdurdod lleol oedd yn cynnig gofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed. Mae’r ffaith bod pob un o’r 22 bellach ar y trywydd iawn i wneud hynny erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon yn dangos y cynnydd rhyfeddol sy’n cael ei wneud o ganlyniad i’n penderfyniad i wneud gofal plant yn fwy fforddiadwy.

“Gall mynediad at addysg a gofal blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel gael effaith ddofn ar ddatblygiad a chyfleoedd bywyd plentyn, wrth roi cefnogaeth ymarferol i rieni yn ystod blynyddoedd cyntaf pwysig o fywyd teuluol.”

You cannot copy any content of this page