I Roi’r Pethau Pwysicaf yn Gyntaf…Bydd cyrsiau e-ddysgu gorfodol newydd Cyswllt Ffermio yn rhoi cychwyn gwych i chi cyn hyfforddiant ymarferol

O fis Medi 2023 ymlaen, bydd yn ofynnol i holl ddysgwyr Cyswllt Ffermio gwblhau cyrsiau
e-ddysgu gorfodol a ariennir yn llawn cyn gwneud cais am fwy na hanner cyrsiau hyfforddi achrededig cymorthdaledig y rhaglen.

Gyda bron i 80 o gyrsiau hyfforddi achrededig ar gael ar hyn o bryd, wedi’u categoreiddio’n fras o dan ‘busnes’, ‘da byw’ a ‘tir’, erbyn yr hydref, bydd 48 o’r rhain yn gofyn eich bod yn cwblhau cwrs e-ddysgu gorfodol yn gyntaf.

“Bydd dysgu’r pethau sylfaenol trwy e-ddysgu perthnasol yn rhagofyniad hanfodol cyn y gall unrhyw unigolyn cofrestredig wneud cais am hyfforddiant achrededig dethol,” meddai Becky Summons sy’n rheoli gwasanaeth iechyd a lles anifeiliaid ac e-ddysgu Cyswllt Ffermio.

Ymhlith y pynciau lle bydd hyn yn berthnasol mae iechyd a diogelwch, busnes, diogelwch plaladdwyr, cloffni mewn gwartheg a ffrwythlondeb y fuches.

“Bydd ymgymryd â modiwl e-ddysgu byr, ond perthnasol, cyn iddynt ymgymryd â hyfforddiant ymarferol wyneb yn wyneb yn rhoi hyder a chychwyn buddiol i ddysgwyr, fel bod ganddynt y wybodaeth sylfaenol berthnasol a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ymlaen llaw,” meddai Ms Summons.

Gyda 6,775 o gyrsiau e-ddysgu wedi’u cwblhau gan unigolion cofrestredig ers 2015, mae’n amlwg bod dysgu ar-lein yn rhan boblogaidd a phwysig o ddarpariaeth hyfforddiant Cyswllt Ffermio. Mae dysgwyr yn astudio ar amser a chyflymder sy’n addas iddyn nhw, gan eu galluogi i gynyddu eu set sgiliau mewn ffordd hygyrch a hyblyg. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’n cymryd tua 20 munud i’w cwblhau, gyda chwis byr ar ddiwedd pob cwrs, gan roi sicrwydd bod y wybodaeth allweddol wedi’i dysgu.

Dywed Kim Brickell, rheolwr fferm yn un o gyrchfannau teuluol mwyaf poblogaidd Cymru, Parc Antur a Sŵ Folly Farm, ger Dinbych-y-pysgod fod cyrsiau e-ddysgu Cyswllt Ffermio, sydd wedi’u hariannu’n llawn, wedi ei galluogi i ‘ddysgu’r holl wybodaeth gyfredol yn fy amser fy hun ac ar fy nghyflymder fy hun’, sydd nid yn unig wedi cynyddu ei sgiliau, ond, sydd hefyd yn ei galluogi i rannu’r wybodaeth honno gydag aelodau eraill o dîm Folly Farm sy’n fwy newydd i’r maes.

“Mae’n hawdd cael mynediad at ba bynnag bwnc e-ddysgu Cyswllt Ffermio y mae gennych ddiddordeb ynddo ac rydych yn gwybod y byddwch yn cael y wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnoch, wedi’i gosod ar y lefel gywir, mewn ffordd glir a chryno.

Mae Kim yn frwd dros ddefnyddio Storfa Sgiliau, cyfleuster storio data ar-lein Cyswllt Ffermio sy’n cofnodi ei holl weithgareddau a chyflawniadau DPP, gan ei galluogi i nodi unrhyw fylchau yn ei sgiliau a chynllunio dilyniant ei gyrfa ar gyfer y dyfodol.

 

Storfa Sgiliau… eich offeryn cadw cofnodion ar-lein personol

● Tystysgrifau ar gyfer holl gyrsiau e-ddysgu Cyswllt Ffermio a chyrsiau hyfforddi achrededig wedi’u llwytho ar eich cyfer

● Mynediad ar unwaith i’ch holl sgiliau, cymwysterau a chyflawniadau mewn un man diogel

● Y gallu i ddangos eich sgiliau ar gyfer cynlluniau sicrwydd fferm, partneriaid y gadwyn gyflenwi neu i ddiweddaru eich CV

I gael rhagor o wybodaeth am holl opsiynau hyfforddiant Cyswllt Ffermio neu i gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy Fel arall, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813 neu eich swyddog datblygu lleol.

Llun: Becky Summons, Rheolwr Iechyd a Lles Anifeiliaid ac E-ddysgu Cyswllt Ffermio a Kim Brickell, Rheolwr Fferm Folly Farm.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page