‘Ma’ dathlu ar y gorwel,
Nadolig rownd y gornel,
y traddodiade’ yn cael lle,
mewn cyngerdd crand ‘run gore’r dre’
Mae Cwmni Actorion Felinfach yn gyffrous i’ch croesawu i Bantomeim Nadolig 2026 – ‘Stwffo’r Twrci Mewn Jamas Matshi Matshi!’ fis Rhagfyr yma.
Pam fod popeth yn ddu yng Ngŵyl y Gwyrth Dyffryn Aeron? Pam nad yw pawb yn gwybod eu llinellau ar gyfer y gyngerdd Nadolig? Pam fod yna sled yn blet wrth droed Mynydd Tychrug? A pham fod eira’n wyn… neu ydi e?
Os am ateb i gwestiynau mawr y Nadolig, dewch i Theatr Felinfach i weld Criw Dyffryn Aeron a’r Dynion Drwg yn y pantomeim Cymraeg unigryw a gwreiddiol wedi ei ysgrifennu gan aelodau’r gymuned a thîm Theatr Felinfach ar gyfer y teulu cyfan i’w fwynhau. Cyfle i weld eich hoff gymeriadau fel Deiana-Ie-Na-Na, WPC Wpsi Deisi a Tani Tychrug, yn ogystal â chymeriadau newydd a digonedd o hud, hwyl a chwerthin.
“Mae creu a llwyfannu panto Felin-fach yn un o binaclau’r flwyddyn i ni fel tîm,” meddai Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felin-fach. “Mae’n braf tynnu criw o bob oed at ei gilydd ar y llwyfan a chefn llwyfan i rannu stori newydd, wreiddiol fydd, gobeithio, yn dod â hwyl yr Ŵyl i gynulleidfaoedd niferus yn ystod yr wythnos”.
Dyddiadau’r Panto:
- 5 Rhagfyr – 16:00
- 7, 9, 10, 11 Rhagfyr – 19:30
- 12 Rhagfyr – 13:00 a 16:00
Bydd cymorth ar gael i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg newydd.
“Dyw Dolig ddim yn Dolig yng Ngheredigion heb Banto Felinfach,” meddai’r Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid. “Prynwch docyn nawr er mwyn mwynhau a gwerthfawrogi holl dalentau canu, dawnsio, actio, dyfeisio ac ysgrifennu Dyffryn Aeron a’r ardal ehangach – a pharatowch am ddigon o chwerthin!”
Am docynnau a gwybodaeth bellach ewch ar wefan Theatr Felinfach www.theatrfelinfach.cymru neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau. Ar gyfer grwpiau o fwy na 10, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau yn uniongyrchol ar gyfer gostyngiad: 01570 470697 / theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk
Facebook a YouTube: Theatr Felinfach
Instagram: @theatrfelinfach