Flood Mitigation Public Consultation – Llangennech

Llangennech residents are being encouraged to have their say on potential flooding schemes in the village and surrounding community.

 

A Welsh Government supported project is ongoing to investigate current and future flood risk in Llangennech, assess potential flood mitigation options to reduce flood risk to residents in the village and investigate future funding mechanisms for the scheme.

 

Carmarthenshire County Council is planning an in-person consultation event with residents, businesses and stakeholders in Llangennech on Wednesday, April 19 between 2pm-7pm at Llangennech Community Centre.

 

Officers from the Council’s Flood Defence and Coastal Protection Team and WSP Consultants will be available throughout the session to answer any queries.

 

The Project Team want to understand the impact flooding has on the community and to assess different potential flood measures that will reduce the impact during increasingly stormy weather in the future.

 

Members of the public will be able to submit their comments and feedback in person to the Project Team on the day, or by writing their comments down and leaving them in a box located at the venue.

 

Feedback from the event will feed into the next stage of the work and form part of any decision making that Carmarthenshire County Council and Welsh Government will undertake to design and implement any flood risk reduction scheme.

 

Cabinet Member for Transport, Waste and Infrastructure Services, Cllr. Edward Thomas said: “We will be hosting a consultation event at Llangennech to discuss flood mitigation and to listen to residents’ views on how we can best protect homes and businesses in the village from flooding. I would encourage as many residents as possible that are living in Llangennech to come along and give their opinions.”

 

The Llangennech Flood Mitigation Public Consultation Event will take place on Wednesday, April 19 2pm-7pm at Llangennech Community Centre.

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Liniaru Llifogydd – Llangennech

 

Mae trigolion Llangennech yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar gynlluniau posibl i atal llifogydd yn y pentref a’r gymuned o’i amgylch.

 

Mae prosiect a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn mynd rhagddo i ymchwilio i’r perygl o lifogydd yn Llangennech yn awr ac yn y dyfodol, asesu opsiynau lliniaru llifogydd posibl i leihau’r perygl o lifogydd i drigolion yn y pentref ac ymchwilio i ddulliau cyllido ar gyfer y cynllun yn y dyfodol.

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynllunio digwyddiad ymgynghori wyneb yn wyneb gyda thrigolion, busnesau a rhanddeiliaid yn Llangennech ddydd Mercher, 19 Ebrill rhwng 2pm a 7pm yng Nghanolfan Gymunedol Llangennech.

 

Bydd swyddogion o Dîm Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu’r Arfordir y Cyngor ac WSP Consultants ar gael drwy gydol y sesiwn i ateb unrhyw ymholiadau.

 

Mae Tîm y Prosiect am ddeall yr effaith y mae llifogydd yn ei chael ar y gymuned ac asesu gwahanol fesurau atal llifogydd posibl a fydd yn lleihau’r effaith yn ystod tywydd cynyddol stormus yn y dyfodol.

 

Bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu cyflwyno eu sylwadau a’u hadborth yn bersonol i Dîm y Prosiect ar y diwrnod, neu drwy ysgrifennu eu sylwadau a’u gadael mewn blwch a fydd ar gael yn y lleoliad.

 

Bydd adborth o’r digwyddiad yn bwydo i mewn i’r cam nesaf o’r gwaith ac yn ffurfio rhan o unrhyw benderfyniadau y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i ddylunio a gweithredu unrhyw gynllun i leihau’r perygl o lifogydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: “Byddwn yn cynnal digwyddiad ymgynghori yn Llangennech i drafod lliniaru llifogydd ac i wrando ar farn trigolion am sut orau y gallwn ddiogelu cartrefi a busnesau yn y pentref rhag llifogydd. Byddwn yn annog cynifer â phosibl o drigolion sy’n byw yn Llangennech i ddod i’r digwyddiad i roi eu barn.”

 

Cynhelir y Digwyddiad Ymgynghori Cyhoeddus ar Liniaru Llifogydd yn Llangennech ddydd Mercher 19 Ebrill rhwng 2pm a 7pm yng Nghanolfan Gymunedol Llangennech.

 

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page