Mae perchennog busnes bwyd anifeiliaid yng Ngheredigion wedi’i ddirwyo ar ôl methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi a oedd yn ei gwneud yn ofynnol iddo wella hylendid, storio a rheoli plâu.
Plediodd Mr Chris J M Cook, o Westfield House, Blaenannerch, Ceredigion, yn euog i ddwy drosedd o dan Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 10 Tachwedd 2026.
Dilynodd yr erlyniad gyfres o archwiliadau gan Wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion ar safle Mr Cook, lle mae barlys yn cael ei gynhyrchu a’i gyflenwi’n lleol.
Yn ystod archwiliad ym mis Hydref 2024, nodwyd hylendid gwael, storio bwyd anifeiliaid yn annigonol a thystiolaeth o bla cnofilod. Yn dilyn hynny, cyflwynwyd Hysbysiad Gwella Busnes Bwyd Anifeiliaid, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i welliannau gael eu gwneud o ran hylendid, storio a rheoli plâu.
Canfu archwiliadau dilynol, er bod rhai gwelliannau wedi’u gwneud, nad oedd gofynion yr hysbysiad wedi’u bodloni’n llawn. Parhaodd swyddogion i ddod o hyd i dystiolaeth o weithgarwch cnofilod, baw llygod mawr yn y bwyd anifeiliaid a mesurau rheoli plâu aneffeithiol. Felly, cychwynnodd y Cyngor achos cyfreithiol am fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
Clywodd y llys fod Mr Cook wedi cyflogi contractwyr rheoli plâu ac wedi gwneud rhywfaint o waith gwella, ond nad oedd wedi cyrraedd y safonau sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth hylendid bwyd anifeiliaid.
Wrth liniaru, dywedwyd wrth y llys fod Mr Cook wedi rhedeg y busnes ers tua 45 mlynedd heb unrhyw gamau gorfodi blaenorol, ei fod wedi cydweithredu â’r ymchwiliad a’i fod wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r problemau a nodwyd.
Dirwyodd yr ynadon Mr Cook £250 am bob trosedd a gorchmynnwyd iddo dalu gordal dioddefwr o £200 a £3,000 tuag at gostau’r erlyniad.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiogelu’r Cyhoedd: “Mae gan fusnesau bwyd anifeiliaid gyfrifoldeb i sicrhau bod eu safleoedd yn cael eu cadw’n lân, bod bwyd anifeiliaid yn cael ei storio’n briodol a bod mesurau rheoli plâu ar waith. Pan nodir problemau, rhaid i fusnesau gymryd y camau angenrheidiol i gyrraedd y safonau gofynnol. Mae’r achos hwn yn dangos y bydd y Cyngor yn cymryd camau gorfodi priodol pan na fydd y safonau hynny’n cael eu bodloni. Byddwn yn annog pob busnes bwyd anifeiliaid i adolygu eu trefniadau hylendid, storio a rheoli plâu ac i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau yn brydlon.”
Mae’r Cyngor yn atgoffa pob gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid i adolygu eu mesurau hylendid, eu trefniadau storio a’u systemau rheoli plâu yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch bwyd anifeiliaid.