Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Ymgyghoriad ar diwrnod ychwanegol gyfer hyfforddiant mewn swydd i athrawon

MAE Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cynhelir ymgynhoriad ar diwrnodiau ychwanegol o hyfforddiant mewn swydd (HMS) ar gyfer dysgu proffesiynol cenedlaethol 2022 i 2025.

Medd Mr Miles:

“Dengys tystiolaeth ymchwil ac arolygu mai’r un dylanwad pwysicaf ar lwyddiant dysgwyr yn y system addysg yw ansawdd y dysgu a’r addysgu. Felly, mae’n bwysig sicrhau bod athrawon yn cael cefnogaeth i ystyried sut y mae’r cwricwlwm a gwaith diwygio arall ym myd addysg yn mynd i effeithio ar ddeilliannau dysgwyr

Heddiw, rwy’n lansio’r ymgynghoriad ar y cynnig i ddarparu diwrnod ychwanegol o hyfforddiant mewn swydd (HMS) ar gyfer dysgu proffesiynol cenedlaethol am y tair blynedd academaidd nesaf. Mae’r ymgynghoriad yn nodi y byddai’r diwrnod HMS ychwanegol wedi ei deilwra’n benodol at gefnogi’r proffesiwn gyda’r newidiadau mewn perthynas â chyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a blaenoriaethau cenedlaethol eraill, megis y diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a thegwch mewn addysg.

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau hyd nes 28 Hydref 2022 ac rwy’n annog pawb sydd â diddordeb yn y sector addysg, gan gynnwys ymarferwyr, rhieni/gofalwyr a dysgwyr, i gymryd rhan ac i ymateb i’r ymgynghoriad.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page