Taith gerdded i gefnogi elusen atal hunanladdiad

MAE taith gerdded ar y traeth i godi arian ac ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn dychwelyd i Abertawe’n hwyrach y mis hwn.

Mae Gwasanaeth Lles Prifysgol Abertawe’n cynnig digwyddiad HOPEWALK 2022 ddydd Sul, 30 Hydref ar gyfer PAPYRUS, yr elusen atal hunanladdiad sy’n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc.

Dyma’r pedwerydd tro y mae’r Brifysgol wedi trefnu taith gerdded tair milltir ar y traeth a fydd yn dechrau ac yn gorffen yn The Secret Bar and Kitchen ar Heol Ystumllwynarth. Dylai unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan gwrdd yno am 10am.

Gwnaeth bron 100 o bobl ymuno â’r digwyddiad cyntaf yn 2019 ac yn ystod Covid, gwnaeth cerddwyr a wnaeth gadw pellter cymdeithasol fynd i leoliadau o’u dewis gan gasglu bron £1,000.

Eleni, mae’r Gwasanaeth Lles yn gobeithio y bydd aelodau’r Brifysgol a’r gymuned leol yn dod i gefnogi unwaith eto.

Meddai Holly Fisher, Rheolwr Lles ac Anableddau Prifysgol Abertawe:

Rydym yn dibynnu ar gysylltu ein myfyrwyr â PAPYRUS am gyngor, cymorth a gwybodaeth arbenigol am hunanladdiad. Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud ar gyfer pobl ifanc yn hollbwysig ac rydym yn falch o barhau â’n partneriaeth a chodi ymwybyddiaeth gyda’r digwyddiad hwn”.

 

Dywedodd David Heald, Rheolwr Ardal PAPYRUS:

“Hunanladdiad yw prif laddwr pobl ifanc dan 35 oed yn y DU a rhaid i ni leihau nifer y bobl ifanc sy’n lladd eu hunain drwy chwalu’r stigma o ran hunanladdiad ac arfogi pobl â’r sgiliau i gydnabod ac ymateb i ymddygiad hunanladdiad.

“Mae digwyddiadau HOPEWALKS yn codi arian ac ymwybyddiaeth i’n helpu ni i barhau â’r gwaith hwn gan gefnogi pobl ifanc a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw. Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am ein partneriaeth barhaus sy’n helpu i arbed bywydau ifanc gyda’n gilydd”.

Yn ystod mis Hydref, cynhelir digwyddiadau HOPEWALK ledled y DU i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc.

Cofrestrwch Nawr! ar gyfer y digwyddiad yn Abertawe neu gallwch gyfrannu at PAPYRUS drwy JustGiving

 

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page