Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Holi am farn trigolion ar ail Ganolfan Lles Ceredigion

Yn dilyn agoriad llwyddiannus Canolfan Lles Llanbedr Pont Steffan, y cyntaf o’r fath yn y sir yn gynharach eleni, gwahoddir trigolion i rannu eu barn ar ail Ganolfan Lles y sir.

 

Gwahoddir trigolion i rannu eu barn ar ba wasanaethau a gweithgareddau yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnig yn yr ail Ganolfan Lles yn Aberteifi.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae creu Canolfannau Lles yn agwedd allweddol ar Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, ac mae gwella iechyd a lles ein trigolion yn flaenoriaeth i ni fel awdurdod lleol. Bydd y Canolfannau Lles yn chwarae rhan sylweddol wrth gyflawni ein Hamcanion Llesiant drwy alluogi trigolion i gael mynediad at wasanaethau sy’n gwella eu lles corfforol, emosiynol a meddyliol.

 

“Mae’r hyn sydd ei angen ar bobl yn wahanol ar draws y sir, felly mae’n bwysig bod pob Canolfan Lles wedi’i chynllunio i ddiwallu’r anghenion lleol hynny. Mae cysylltu â thrigolion y sir a chlywed beth maen nhw am ei gael o’r gwasanaeth yn rhan bwysig o’r broses ddatblygu a byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i gwblhau’r arolwg.”

 

Mae cyfle i drigolion ddweud eu barn ar-lein hyd at 31 Rhagfyr 2023. Gellir cwblhau’r arolwg ar-lein ymahttps://tinyurl.com/CanolfanLlesAberteifi2il

 

Mae copïau papur ar gael yng Nghanolfan Hamdden Teifi, Llyfrgell y sir yn Aberteifi, Canolfan Gofal Integredig Aberteifi a Llyfrgell Llandysul. Ar gyfer fformatau eraill, cysylltwch â Gwasanaethau i Gwsmeriaid Clic ar 01545 570 881 neu clic@ceredigion.gov.uk. Bydd cyfle hefyd i drafod mewn grwpiau ffocws.

 

Mae’r astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal gan Alliance Leisure ar ran y Cyngor ac yn cael ei hariannu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy Raglen y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac fel rhan o Raglen Gyfalaf ehangach Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru.

 

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/canolfan-lles-aberteifi/


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page