Taith feiciau cwad yn codi £3,000 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

Cododd y cyflwynydd radio a ffermwr Ifan Evans, a drefnodd daith feiciau cwad yng nghefn gwlad, swm aruthrol o £3,000 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.

Daeth wyth deg o bobl i fyny gyda’u beiciau cwad a dilyn llwybr 30 milltir o Bontarfynach i Gwmystwyth a Phont-rhyd-y-groes ac yn ôl.

Yn y llun (chwith) mae Ifan yn cyflwyno ei siec i Stacey Mleczek, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd; Sarah Garbutt, Nyrs Cemotherapi; a Cassie Thomas, Uwch Nyrs Cemotherapi.

Dywedodd Ifan, 37, sy’n dad i dri o blant: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi codi cymaint o arian ac rwyf am ddiolch i bawb a helpodd, a gymerodd ran ac a gyfrannodd. Roeddwn i eisiau cefnogi’r Apêl ac roeddwn i eisiau trefnu rhywbeth gyda naws amaethyddiaeth ychydig yn wahanol.”

“Allwn i ddim credu’r peth pan ddaeth 80 o bobol ar y diwrnod o mor bell i ffwrdd â Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi a’r Trallwng,” ychwanegodd Ifan, sy’n cyflwyno rhaglen brynhawn ar Radio Cymru ac sydd hefyd yn gyflwynydd amaethyddol ar S4C ar raglenni fel Cefn Gwlad. “Rwy’n meddwl bod y gefnogaeth ar gyfer y daith yn dangos pa mor bwysig yw’r uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais i bobl leol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd yn adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i Ifan am ei gefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu i’n helpu i gyrraedd ein targed.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i:www.hywelddahealthcharities.org.uk

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page