Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Cered ar y Prom ’24

Dewch i fwynhau prynhawn llawn adloniant Cymraeg yn Bandstand Aberystwyth ddydd Mercher 31 Gorffennaf gyda digwyddiad arbennig sydd wedi ei drefnu gan Cered: Menter Iaith Ceredigion.

Fe fydd drysau ‘Cered ar y Prom’ yn agor am hanner dydd ac fe fydd llond llaw o stondinau a gweithgareddau drwy’r prynhawn gan gynnwys helfa drysor ar hyd Prom Aberystwyth, gweithdy Lego, cornel gemau bwrdd Cymraeg a heriau corfforol gan griw Chwaraeon a Hamdden y Mentrau Iaith.

Yn ogystal â hyn fe fydd yna arlwy o berfformwyr a sesiynau yn cychwyn am un o’r gloch gyda sesiwn stori a chân Cymraeg i Blant ac am ddau o’r gloch sesiwn gyda’r “Doctor Cymraeg” – sy’n ffenomenon cyfryngau cymdeithasol o Wrecsam, ac a fydd yn sgwrs ddifyr tu hwnt ac yn addas i ddysgwyr

Am dri o’r gloch fe fydd y gerddoriaeth yn cychwyn gyda pherfformiadau gan artistiaid a bandiau lleol sef y gantores-gyfansoddwraig o Bontrhydfendigaid Rhiannon O’Connor, y rocars o Aberystwyth ‘Bwca’ ac enillwyr Brwydr y Bandiau Gwerin Eisteddfod 2023 ‘Lo-Fi Jones’ o Fachynlleth. Yn cloi’r ŵyl fechan hon fydd y gerddorfa ukulele Iwcadwli sydd wedi bod yn diddanu ymwelwyr i’r Bandstand yn rheolaidd dros y mis diwethaf.

Dywed trefnydd y digwyddiad, Steff Rees ar ran Cered: “Dyma brynhawn rhad ac am ddim llawn hwyl a sbri i bob oed yng nghanol y gwyliau ysgol fydd yn cynnig diddanwch i blant ac oedolion lleol tra hefyd yn agor y drws i iaith a diwylliant Cymru i’r rheiny fydd yn ymweld â Cheredigion dros y gwyliau.”

Y Cynghorydd Catrin M S Davies yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ddiwylliant. Dywedodd: “Dyma gyfle gwych, dros wyliau’r haf, i deuluoedd a ffrindiau ar draws y Sir i fwynhau cerddoriaeth a gweithgareddau yn Gymraeg. Mae ‘na groeso i bawb, o’r rheiny sy’n cychwyn ar eu taith dysgu Cymraeg i’r rhai sy’n rhugl, a phawb yn y canol. Dewch yn llu!”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar Cered: Menter Iaith Ceredigion, ewch i’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol; @Cered – Menter Iaith Ceredigion ar Facebook, @MICered ar X ac Menteriaithceredigion ar Instagram.


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page