Prams y Prom yn lansio yn Aberystwyth i gefnogi rhieni newydd drwy’r Gymraeg

Mae Cered: Menter Iaith Ceredigion yn falch o gyhoeddi lansiad grŵp cymunedol newydd yn Aberystwyth ar gyfer rhieni newydd a’u babanod, o’r enw “Prams y Prom”, a fydd yn dechrau ddydd Iau, 4 Mehefin.

Bydd y grŵp cerdded a sgwrsio hwn yn cyfarfod bob yn ail ddydd Iau am 10:00yb, gan gychwyn ger y murlun newydd lliwgar dan Bont Trefechan cyn dilyn llwybr ar hyd y Promenâd, gyda saib hanner ffordd am goffi a sgwrs.

Nod y cynllun yw darparu cyfle anffurfiol a chefnogol i rieni newydd ddod allan o’r tŷ, cwrdd â rhieni eraill, a magu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchedd cyfeillgar ac ymlaciol. Mae’r fenter hefyd yn cyfrannu at hyrwyddo lles meddyliol a chorfforol drwy gyfuno gweithgarwch ysgafn â chymdeithasu.

Mae galw cynyddol am weithgareddau i rieni a babanod sy’n cynnig cyfle i gysylltu ag eraill, ac mae “Prams y Prom” yn adeiladu ar y galw hwnnw drwy ganolbwyntio ar y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.

Dywedodd Elin Mai Williams, Swyddog Datblygu Cered a threfnydd y grŵp: “Mae llawer eisoes wedi dangos diddordeb yn y grŵp, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu rhieni newydd o bob cefndir iaith. Y gobaith yw y bydd Prams y Prom yn datblygu’n gymuned gyfeillgar lle gall rhieni gefnogi ei gilydd, rhannu profiadau a mwynhau amser gwerthfawr gyda’u babanod, oll drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Dywedodd Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae cefnogi teuluoedd ifanc a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein cymunedau yn flaenoriaeth bwysig. Mae mentrau fel ‘Prams y Prom’ yn ffordd wych o ddod â phobl ynghyd, gan greu cyfleoedd naturiol i ddefnyddio’r Gymraeg a chefnogi lles rhieni newydd ar yr un pryd.”

Mae croeso i bawb ymuno gan gynnwys siaradwyr Cymraeg beth bynnag eich gallu yn ogystal â unrhyw rhieni di-Gymraeg sydd yn awyddus i gyflwyno’r Gymraeg i’w plentyn. Nid oes angen archebu ymlaen llaw.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Cered drwy e-bostio cered@ceredigion.gov.uk neu ymunwch â’r grŵp ar ei ddiwrnod cyntaf dan Bont Trefechan ar 4 Mehefin 2026 am 10:00yb

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page