Cyllid Elusennol yn Cefnogi Gweithgareddau Pobi ar Gyfer Cleifion Dementia

Diolch i roddion, llwyddodd Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i ddarparu cyllid i gefnogi gweithgareddau pobi yn Ward 12 Ysbyty Llwynhelyg.

 

Galluogodd y cyllid y ward i brynu eitemau fel cynhwysion coginio ar gyfer cleifion sy’n byw gyda dementia, a oedd yn gwella eu profiad a’u lles.

 

Anogwyd cleifion i wneud cacennau ac roeddent yn elwa o fod yn annibynnol yn ogystal â chymryd rhan yn y gweithgareddau hwyliog.

 

Dywedodd Zoe Griffiths, Uwch Brif Nyrs, Ward 12: “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion elusennol wedi cefnogi’r gweithgareddau hyn ar y ward. Mae coginio o fudd mawr i’r cleifion gan ei fod yn weithgaredd ysgogol da, a fydd yn ysgogi’r synhwyrau yn ogystal â gwella archwaeth.

 

“Yn ogystal â hyn, gall coginio hefyd ddod â hen atgofion yn ôl sydd gan gleifion a chadw’r ymennydd yn actif gan ei fod yn golygu pwyso a mesur.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i hywelddahealthcharities.nhs.wales.

You cannot copy any content of this page