Diolch i’ch rhoddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi ariannu sganiwr ffeibr newydd gwerth dros £80,000 ar gyfer Ysbyty Cyffredinol Bronglais i helpu i wneud diagnosis a rheoli clefyd yr afu.
Mae sganiwr ffeibr yn beiriant uwchsain arbenigol ar gyfer yr afu/iau sy’n mesur ffibrosis (creithiau) a steatosis (newid brasterog) yn yr afu/iau. Mae’n brawf anfewnwthiol sy’n graddoli difrifoldeb clefyd yr afu claf ac yn cefnogi rheoli cyflyrau mewn cleifion â chlefyd cronig yr afu.
Bydd y sganiwr ffibr newydd o’r radd flaenaf yn darparu’r dechnoleg ddiweddaraf i gleifion ym Mronglais. Mae’r peiriant yn symudol a gellir mynd ag ef i’r gymuned i glinigau camddefnyddio sylweddau, clinigau meddygon teulu a chartrefi cleifion; mae ganddo hefyd nodweddion uwch ac offer diagnostig a all gyflymu diagnosis clefyd yr afu.
Yn y llun, o’r chwith i’r dde, gyda’r sganiwr ffeibr: Rhian Jones, Nyrs Cyswllt Alcohol; Zoe Merritt, Nyrs Cyswllt Alcohol Golau Glas; Donna Blinston, Uwch Ymarferydd Nyrsio Hepatoleg
Dywedodd Donna Blinston, Uwch Ymarferydd Nyrsio Hepatoleg: “Mae clefyd yr afu yn bennaf yn glefyd anweledig nes iddo ddod yn fwy datblygedig, ac os na chaiff ei ddiagnosio a heb ei drin, mae cleifion yn mynd ymlaen i ddatblygu sirosis yr afu na ellir ei wrthdroi.
“Bydd y sganiwr ffibr newydd o fudd mawr i gleifion yn nalgylch Bronglais, gan sicrhau eu bod yn elwa ar y dechnoleg ddiweddaraf ac yn gallu cael sganiau amserol mewn lleoliadau lleol.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.