Yn y llun uchod: Staff o Ward 4. Lluniau: (Hywel Dda)
Mae staff o Ward 4 yn Ysbyty Llwynhelyg yn barod i herio Pen y Fan mewn ymdrech i godi arian ar gyfer y ward lawfeddygol.
Ar ddydd Sadwrn 5ed Medi 2026, bydd aelodau’r tîm yn dringo Pen y Fan ym Bannau Brycheiniog.
Dywedodd staff yn yr uned: “Rydym wedi trefnu’r digwyddiad hwn i godi arian a fydd yn mynd yn uniongyrchol tuag at wella amgylchedd y ward i gleifion, gan gynnwys prynu eitemau fel setiau teledu i wella cysur a lles yn ystod eu harhosiad.
“Rydyn ni’n gobeithio codi £500.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i’r tîm ar Ward 4 am groesawu’r her a dewis codi arian i’w ward. Gobeithio y cewch chi ddiwrnod gwych a mwynhewch y profiad yn wirioneddol.
“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a gawn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, maent yn cefnogi eitemau a gweithgareddau ychwanegol y tu allan i wariant craidd y GIG. Mae’r pethau ychwanegol bach hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac rydym mor ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”
I gyfrannu at ymgyrch codi arian Ward 4 Pen y Fan, ewch i:
https://hyweldda.enthuse.com/cf/ward-4-staff-at-withybush-hospital-s-pen-y-fan-cha
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i elusennauiechydhyweldda.gig.cymru
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.
