Mabon ap Gwynfor AS, Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Roedd cynllun 100 diwrnod Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i gomisiynu adolygiad o drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru. Heddiw, rwy’n cadarnhau y bydd yr adolygiad hwnnw’n cael ei symud yn ei flaen gan dynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Mae Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio GIG Cymru, sef y fframwaith cyfredol sy’n darparu’r trefniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i gael sicrwydd ynghylch perfformiad, ansawdd, llywodraethiant, arweinyddiaeth, a chynaliadwyedd ariannol sefydliadau’r GIG. Mae hefyd yn nodi’r camau y gellir eu cymryd pan fo pryderon yn codi sy’n gofyn am gefnogaeth, ymyrraeth, neu uwchgyfeirio.
Mae’r trefniadau hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi gwelliannau ar draws GIG Cymru.
Fodd bynnag, y gwir amdani yw nad yw gwelliant parhaus wedi bod mor amlwg ag y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl. Mae rhai sefydliadau mewn cyflwr o uwchgyfeirio dwys ers blynyddoedd lawer, gan barhau â methiannau annerbyniol a’u normaleiddio mewn safonau gofal.
Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau bod y trefniadau hyn yn parhau i fod yn effeithiol, yn gymesur, ac yn canolbwyntio ar sicrhau gwelliannau cynaliadwy i gleifion a chymunedau. Mae angen inni hefyd sicrhau bod y trefniadau yn ennyn hyder llawn y staff a’r cyhoedd fel ei gilydd.
Bydd yr adolygiad yn darparu asesiad o effeithiolrwydd y trefniadau goruchwylio, uwchgyfeirio, ac ymyrryd presennol. Bydd yn ystyried a yw’r fframwaith yn gyrru gwelliant sefydliadol mesuradwy, yn cefnogi ymyrraeth gynharach pan fo pryderon yn dod i’r amlwg, ac yn rhoi sicrwydd priodol i Weinidogion, y Senedd, a’r cyhoedd. Bydd hefyd yn ystyried a yw’r trefniadau’n gymesur â’r risg, yn hyrwyddo atebolrwydd cadarn, ac yn cefnogi’r broses o ledaenu ac ymwreiddio dysgu ac arferion da ar draws GIG Cymru.
Bydd yr adolygiad yn tynnu ar dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, sefydliadau GIG Cymru, Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a Perfformiad a Gwella GIG Cymru, yn ogystal â phrofiadau o sefydliadau sydd wedi bod yn destun trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd.
Ochr yn ochr â’r adolygiad hwn, mae’r gwaith o gryfhau trefniadau atebolrwydd rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau’r GIG yn parhau i fynd rhagddo. Mae atebolrwydd clir, goruchwyliaeth gadarn, ac ymyrraeth amserol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod sefydliadau’r GIG yn darparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy o ansawdd uchel i bobl Cymru.
Rwy’n disgwyl i’r adolygiad adrodd ar ei ganfyddiadau a’i argymhellion erbyn mis Medi. Bydd y canfyddiadau’n llywio’r gwaith o ddatblygu Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio GIG Cymru a threfniadau atebolrwydd ehangach yn y dyfodol, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i’r diben ac yn parhau i gefnogi gwelliannau ar draws GIG Cymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.