“Peidiwch ddefnyddio tir amaethyddol ar gyfer coed” medd Plaid Cymru

MAE Plaid Cymru wedi galw am ddysgu gwersi dros brynu Ystâd Brownhill gan Lywodraeth Cymru – llain o dir amaethyddol blaenllaw a gafodd ei
brynu er mwyn plannu coed, dim ond i Lywodraeth Cymru ailfeddwl eu cynlluniau.

Yn dilyn ymgynghoriad, ymgyrchu gan y Countryside Alliance, a Phlaid Cymru yn codi’r mater yn y Senedd, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai Ystâd Brownhill yn Nyffryn Tywi yn cadw rhywfaint o’i ddefnydd amaethyddol, gan gyfuno cynhyrchu bwyd â phlannu coed.

Mae llefarydd Plaid Cymru dros amaethyddiaeth a materion gwledig, Mabon ap Gwynfor AS wedi galw am “ddysgu gwersi” o’r “saga druenus” hon ac i Lywodraeth Cymru edrych eto ar leiniau eraill o dir amaethyddol o bwys y mae wedi’i brynu er mwyn plannu coed, fel Tyn Mynydd tu allan i Borthaethwy yn Ynys Môn.

Mae Mr ap Gwynfor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r gymuned wledig o’r cychwyn i gydnabod y tir gorau ar gyfer ei rhaglen plannu coed, er mwyn sicrhau eu bod wirioneddol yn gallu plannu “y goeden gywir yn y lle iawn am y rheswm cywir”.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros amaethyddiaeth a materion gwledig, Mabon ap Gwynfor AS,

“Mae’r penderfyniad yma gan Lywodraeth Cymru i gadw tir amaethyddol blaenllaw ar gyfer cynhyrchu bwyd ar Ystâd Brownhill i’w groesawu’n fawr, er mor hwyr.

“Nid yw tir porfa amaethyddol yn cael ei droi, ac mae’r gwreiddiau a’r pridd yn cloi cymaint o garbon i mewn â rhai coed, felly fyddai  plannu coed ar y tir hwn ddim yn achosi mwy o fudd amgylcheddol.

“Yn ogystal, byddai colled i Gymru o’r tir gwerthfawr hwn sy’n cynhyrchu bwyd, yn cael effaith ddinistriol, nid yn unig o ran cynhyrchu bwyd, ond o ran colli cymunedau gwledig sydd wedi eu hadeiladu o gwmpas ffermydd, a’r erydiad graddol ar ffordd o fyw, iaith a diwylliant sy’n cael eu plethu’n unigryw â bywyd cefn gwlad Cymru.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos eu bod wedi dysgu gwersi fel hyn – er lles cenedlaethau’r dyfodol.

“Yn y cyfamser, mae tiroedd pori amaethyddol sydd eisoes wedi cael eu prynu gan Lywodraeth Cymru – fel Tyn Mynydd ar Ynys Môn. Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ailystyried eu penderfyniad i blannu coed ar y tir pori amaethyddol gwerthfawr hwn.”

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page