Cyfraith Raneem: Heddlu Dyfed-Powys i gryfhau’r ymateb i gam-drin domestig gyda chyllid newydd o’r Swyddfa Gartref

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn un o ddeuddeg gwasanaeth heddlu sy’n cyflwyno cymorth gwell i ddioddefwyr cam-drin domestig gydag ail gam cyflwyno “Cyfraith Raneem”, a ariennir gan y Swyddfa Gartref.

Gan gychwyn ym mis Awst, bydd y mesur newydd hwn yn gweld Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu i gryfhau ymateb yr heddlu i gam-drin domestig o’r pwynt cyswllt cyntaf.

Sefydlwyd Cyfraith Raneem er cof am Raneem Oudeh a’i mam, Khaola Saleem, a gafodd eu llofruddio yn 2018 ar ôl galw’r heddlu am gymorth dro ar ôl tro. Mae menter y Swyddfa Gartref yn anelu i sefydlu arbenigwyr cam-drin domestig yn ystafelloedd rheoli gwasanaethau heddlu ledled Cymru a Lloegr, gan helpu heddluoedd i nodi perygl yn gynt a gwella diogelu ar gyfer dioddefwyr.

Cefnogir y fenter gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh) Dyfed-Powys, sy’n dal grant y Swyddfa Gartref, a Gwasanaethau Trais Domestig Calan, a fydd yn darparu Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig llawn amser ar gyfer y rôl.

Ers dros 70 mlynedd, mae Gwasanaethau Trais Domestig Calan wedi rhoi cymorth arbenigol i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws De, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae eu Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig yn gweithio gyda’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o niwed, gan ddarparu eiriolaeth annibynnol, cynlluniau diogelwch, cymorth emosiynol ac arweiniad ymarferol wrth helpu dioddefwyr i lywio’r system cyfiawnder troseddol a chael mynediad at y gwasanaethau sydd angen arnynt.

Fel rhan o gyfraith Raneem, bydd y Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig yn gweithio ochr yn ochr â staff Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu i roi cyngor arbenigol ar ddigwyddiadau cam-drin domestig yr adroddir amdanynt wrth yr heddlu, gan helpu i nodi achosion perygl uwch a sicrhau bod mesurau diogelu digonol yn cael eu hystyried cyn gynted â phosibl.

Bydd y fenter ddiweddaraf hon yn gweithredu ochr yn ochr ag Uned Ymateb Fideo i Gam-drin Domestig yr heddlu yn rhoi cyfle i ddioddefwyr digwyddiadau domestig nad ydynt yn rhai brys siarad â swyddog heddlu drwy alwad fideo.

Gyda’i gilydd, bydd cyflwyno’r Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig a’r defnydd parhaus o’r gwasanaeth galwadau fideo’n sicrhau gwasanaeth mwy arbenigol ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig ar draws pob lefel risg.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Katie Cuthbertson o Ganolfan Fregusrwydd Heddlu Dyfed-Powys:

“Mae cyflwyno’r rôl arbenigol hon yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu ymateb tosturiol i ddioddefwyr cam-drin domestig, gan barhau i erlid y rhai sy’n gyfrifol am achosi niwed yn ddiflino.

“Gall y rhyngweithiad cyntaf mae rhywun yn cael gyda ni ar ôl profi cam-drin domestig fod yn un o’r rhai pwysicaf, yn ymarferol ac yn emosiynol. Bydd cael Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig arbenigol yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu’n cryfhau ein gallu i asesu’r risg a darparu’r diogelu cywir mor gyflym â phosibl.

“Mae’r bartneriaeth hon gyda Gwasanaethau Trais Domestig Calan yn ychwanegiad pwysig i’r gwaith sydd eisoes yn digwydd ledled ardal Heddlu Dyfed-Powys i wella ein hymateb i ddioddefwyr cam-drin domestig. Rwy’n gobeithio bydd y mesur newydd hwn yn rhoi mwy o hyder a sicrwydd i ddioddefwyr o ran adrodd am gam-drin domestig wrthym.”

Croesawodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y cyllid, gan ddweud:

“Mae’r buddsoddiad hwn yn cynrychioli cyfle pwysig i bartneriaid ledled ardal Dyfed-Powys i gryfhau’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr cam-drin domestig ymhellach. Drwy ddod ag arbenigedd Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaethau Trais Domestig Calan ynghyd, gallwn helpu i sicrhau bod y rhai sy’n estyn allan am gymorth yn derbyn ymateb gwybodus, amserol ac effeithiol o’r pwynt cyswllt cyntaf un.”

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaethau Trais Domestig Calan:

“Mae Gwasanaethau Trais Domestig Calan yn falch o weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys i gyflwyno Cyfraith Raneem, sef menter bwysig sy’n cryfhau’r ymateb i gam-drin domestig drwy gynnwys arbenigedd Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig arbenigol yn Ystafell Reoli’r Heddlu. Bydd yr ymagwedd hon yn helpu i adnabod dioddefwyr perygl uwch yn gynt, gwella diogelu, a sicrhau bod pobl yn derbyn cymorth arbenigol o’r cyswllt cyntaf un gyda’r heddlu.

“Mae Cyfraith Raneem yn gam cadarnhaol tuag at wella canlyniadau ar gyfer dioddefwyr. Drwy ddod â phlismona ac arbenigedd cam-drin domestig arbenigol at ei gilydd, mae cyfle gyda ni i gryfhau ymgysylltu â dioddefwyr, gwella asesiadau risg, ac yn y pen draw, helpu i amddiffyn mwy o ddioddefwyr a’u plant rhag niwed yn y dyfodol.”

DIWEDD

You cannot copy any content of this page