Merch ysgol yn codi dros £500 ar gyfer uned cemo

Mae Begw Fussell, myfyriwr Blwyddyn 13 o Efailwen, wedi codi swm gwych o £580 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili.

Yn y llun uchod (Chwith i’r Dde): Dr Praba Gupta, Grug Fussell, Begw Fussell, Louise Smith, Claire Walters a Jayne Roberts

Trefnodd Begw gyngerdd yn ei chapel pentref lleol ar 17 Rhagfyr 2023 i godi arian.

 

Dywedodd Begw: “Roedd yn ddigwyddiad i ddod â’r gymuned ynghyd. Rwy’n byw mewn cymuned gyda llawer o bobl oedrannus ac roedd cynnal y digwyddiad hwn yn golygu y gallent i gyd gael y cyfle i fwynhau cwmni ei gilydd. Fi fy hun, Jess Robinson, Esyllt Thomas, Ffion Thomas a Sioned Llewellyn i gyd wedi perfformio.

 

“Dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi codi arian ar gyfer Macmillan, Paul Sartori, ac ar gyfer diffibriliwr lleol sydd bellach yn cael ei ddefnyddio.

 

“Rwyf wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y bobl rwy’n eu hadnabod sy’n brwydro yn erbyn canser. Rwy’n teimlo bod yr Uned Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili yn cefnogi cymaint o deuluoedd ac unigolion ar eu taith at adferiad. Collodd dau o fy ffrindiau eu mamau i ganser yn y blynyddoedd diwethaf ac rwy’n teimlo y dylai pob uned cemo dderbyn y gefnogaeth orau gan eu cymuned, ni fyddwn byth yn gwybod pryd y bydd eu hangen arnom.

 

“Roedd yn noson werth chweil iawn. Gadawodd y gymuned sylwadau hyfryd. Mae pawb nawr yn gofyn pryd mae’r un nesaf!

 

“Diolch i’n hathro cerdd, Eilyr Thomas, ac i’r gymuned gyfan sydd bob amser yn barod i’m cefnogi gyda fy holl ddigwyddiadau codi arian.”

 

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Begw am drefnu’r cyngerdd a chodi’r swm gwych o £580.

 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page