Mae’r cam cyntaf tuag at strategaeth Ddiwylliant a Chwaraeon newydd, a fydd yn seiliedig ar gamau gweithredu go iawn i wireddu gweledigaeth Cymru fel pwerdy diwylliant a chwaraeon, yn dechrau heddiw.
Mae Datgloi Potensial Cymru yn alwad am dystiolaeth i lywio strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd, gyda’r nod nad yw’r rhain yn cael eu hystyried fel pethau dewisol ond yn hytrach yn rhan hanfodol o fywyd cenedlaethol. Gyda Chymru yn dod yn wlad lle mae creadigrwydd, cyfranogiad a rhagoriaeth yn hawl sylfaenol i bawb.
Am y tro cyntaf, bydd y strategaeth ddiwylliant yn cynnwys chwaraeon a’r diwydiannau creadigol, gyda chamau mesuradwy ar gyfer pob sector.
Bydd y cam cyntaf hwn yn dechrau gyda thrafodaeth banel yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda digwyddiadau ymgysylltu wedi’u cynllunio ledled Cymru a gyda sectorau unigol ar bob lefel dros y misoedd nesaf.
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan: “Bydd y sgwrs gychwynnol hon yn yr Eisteddfod yn ddechrau ar bennod newydd i ddiwylliant a chwaraeon yng Nghymru wrth i ni drafod sut y gallant ddatgloi potensial ein cenedl.
“Rwy’n teimlo’n gyffrous ein bod yn dechrau’r daith tuag at strategaeth newydd a gweledigaeth hir dymor ar gyfer y sectorau pwysig hyn, sy’n greiddiol i’n hunaniaith fel cenedl.
“Ledled Cymru, rydym eisoes yn gweld gwaith gwych ac arloesol yn digwydd yn y meysydd hyn sy’n trawsnewid bywydau ond gallwn fynd yn bellach.
“Dros y misoedd nesaf, bydd cyfle gan bawb yng Nghymru gyfrannau at ddatblygiad y strategaeth a dwi’n edrych ymlaen i glywed syniadau pobl a sefydliadau ynglyn a sut y gallwn ryddhau gwir botensial Cymru drwy edrych o’r newydd ar ddiwylliant a chwaraeon.”
Bydd yr Alwad am Dystiolaeth yn rhedeg tan 18 Rhagfyr ac mae rhagor o wybodaeth ynglyn a sut i gymryd rhan ar gael yma: http://llyw.cymru/strategaethdiwylliantachwaraeon
Bydd canfyddiadau’r broses ymgysylltu a’r alwad am dystiolaeth yn cael eu rhannu yng Ngwanwyn 2027 a byddant yn sail i’r strategaeth newydd a’r cynlluniau gweithredu sector-benodol.