I weld y cynnwys hwn ac i lawrlwytho unrhyw ddeunydd cysylltiedig, defnyddiwch y ddolen a’r cod mynediad isod Gweld a lawrlwytho

Buddsoddiad gwerth £86 miliwn i wella gwasanaethau radiotherapi ar gyfer canser yn Ne Cymru

Buddsoddiad gwerth £86 miliwn i wella gwasanaethau radiotherapi ar gyfer canser yn Ne Cymru
Lawrlwytho
Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan heddiw y bydd mwy na £86 miliwn ar gael ar gyfer cyfleusterau, offer a meddalwedd newydd ym maes triniaethau canser.

Mae’r buddsoddiad yn rhan o raglen hirdymor yn ne-ddwyrain Cymru i drawsnewid sut caiff gwasanaethau canser eu darparu. Mae’n nodi carreg filltir bwysig yn y gwaith o drawsnewid triniaethau canser ar draws y rhanbarth ac yn cynnig gofal yn agosach at gartrefi’r cleifion.

Mae mwy na £48 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cyfarpar radiotherapi o’r radd flaenaf, a fydd yn disodli’r fflyd cyflymwyr llinellol a geir yng Nghanolfan Ganser Felindre. Bydd wyth o’r peiriannau hyn yn cael eu disodli yn y ganolfan yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd – a bydd dau arall yn mynd i ganolfan radiotherapi newydd yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni rhwng nawr a 2025.

Bydd hyn yn sicrhau bod gan wasanaethau radiotherapi gyfarpar dibynadwy, eu bod yn gallu darparu’r technegau diweddaraf a bod ganddynt ddau beiriant ychwanegol i fodloni’r galw cynyddol am driniaethau canser.

Bydd y Ganolfan ‘Lloeren’ Radiotherapi newydd, gwerth £38 miliwn yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, yn agor erbyn 2024 er mwyn i bobl sy’n byw yng ngogledd a dwyrain dalgylch Canolfan Ganser Felindre gael gwell mynediad at wasanaethau radiotherapi.

Bydd y buddsoddiad cyfunol yn darparu triniaethau newydd a gwell i gleifion canser, yn darparu gwasanaethau radiotherapi diogel, ac yn gwella capasiti ac effeithlonrwydd y gwasanaeth – drwy ddarparu triniaethau cyflymach sydd wedi’u targedu’n well.

Bydd y buddsoddiad hefyd yn darparu meddalwedd cynllunio triniaethau canser wedi’i moderneiddio, y galedwedd ddigidol gysylltiedig ac adnewyddiadau i’r adeilad.

Unwaith y bydd y rhaglen wedi ei chwblhau, bydd de-ddwyrain Cymru yn cael budd o Ganolfan Ganser Felindre newydd, Canolfan Lloeren Radiotherapi ychwanegol, fflyd newydd o beiriannau radiotherapi, a’r feddalwedd ddiweddaraf i gynllunio a chyflawni radiotherapi.

Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo yn unol â datblygiad y model clinigol ehangach o ofal canser nad yw’n lawfeddygol. Mae hyn hefyd yn cynnwys datblygu gwasanaethau oncoleg acíwt integredig mewn ysbytai cyffredinol dosbarth drwy gydol y rhanbarth.

Wrth ymweld â Chanolfan Ganser Felindre, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae agor canolfan lloeren radiotherapi yn ne-ddwyrain Cymru a’n gwaith o ailstrwythuro cyfarpar radiotherapi yn arddangos ein hymrwymiad i wneud buddsoddiadau sylweddol i wella gwasanaethau a chanlyniadau canser yng Nghymru.”

“Bydd y model lloeren newydd yn gwella mynediad at radiotherapi, gan wasanaethu llawer o’n cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd- gymdeithasol ym Mlaenau’r Cymoedd a gogledd Gwent.”

“Mae hyn yn adeiladu ar fuddsoddiadau diweddar yn natblygiad y Ganolfan Ganser Felindre newydd a buddsoddiadau tebyg ym maes radiotherapi, gwaith cynllunio triniaethau, a chyfarpar diagnostig yng nghanolfannau triniaethau canser de-orllewin a gogledd Cymru.”

“Mae hyn yn rhan o’n dull gweithredu hirdymor o sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at dechnegau radiotherapi a argymhellir o fewn targedau amseroedd aros canser a safonau mynediad proffesiynol.”

Dywedodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Steve Ham:

“Bydd ein fflyd newydd o beiriannau radiotherapi yn darparu triniaeth o’r radd flaenaf i gleifion canser yn ne-ddwyrain Cymru a thu hwnt. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei buddsoddiad ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i ddatblygu gwell gwasanaethau canser ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Mae ein staff a’n cleifion yn ganolog i’n gwaith o ddatblygu gwasanaethau ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu hymrwymiad parhaus i wella canlyniadau cleifion tra’n darparu gofal o’r radd flaenaf heddiw.”

“Yn ogystal â datblygu’r Ganolfan Ganser Felindre newydd, bydd hyn yn ein galluogi i barhau i ymateb i’r galw cynyddol wrth i ragor o bobl gael eu hatgyfeirio atom gyda chanser bob blwyddyn.”

Dywedodd Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Rydym wrth ein bodd bod y cyfleuster gwych, newydd hwn wedi’i gymeradwyo ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn datblygu. Mae’n ddatblygiad newydd a chyffrous iawn ar gyfer safle Ysbyty Nevill Hall, a fydd yn cynnig gwasanaethau canser arbenigol yn agosach at gartrefi preswylwyr Gwent.”

Dywedodd Laurent Amiel, Llywydd Datrysiadau Oncoleg Ymbelydredd Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica yn Varian:

“Mae Varian yn falch o gydweithio ag arweinwyr a llywodraethau byd-eang wrth i ni gyrraedd rhagor o gleifion a datblygu ein cenhadaeth i greu byd nad yw’n ofni canser. Edrychwn ymlaen at y cyfle hwn i ehangu mynediad at well gofal canser i gleifion ar draws de Cymru.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page