Uchod: cyfranogwr 2022 James Day a gododd arian ar gyfer yr Uned Penderfyniadau Clinigol i Oedolion yn Ysbyty Llwynhelyg, lle mae’n gweithio
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn cynnig lleoedd am ddim i godwyr arian ym mhob un o ddigwyddiadau Penwythnos Cwrs Hir 2023 yr haf hwn.
Mae’r elusen, sydd wedi’i chyhoeddi fel partner “Powered By” ar gyfer Hanner Marathon Cymru Penwythnos Cwrs Hir, yn ceisio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG
Penwythnos Cwrs Hir, a gynhelir ar 30 Mehefin – 2 Gorffennaf, yw’r ŵyl aml-chwaraeon fwyaf yn Ewrop, gan ddenu dros 10,000 o athletwyr a 35,000 o gefnogwyr o 45 o wledydd. Mae digwyddiadau’n cynnwys Marathon Cymru, Hanner Marathon Cymru, 10k, 5k, Nofio Cymru (opsiynau 1.2 a 2.4 milltir), Sportive Cymru (opsiynau beicio 40 milltir, 70 milltir neu 112 milltir) a’r digwyddiad LC Kinder i blant.
Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Activity Wales Events yn 2023. Rydym yn cynnig cyfleoedd unigryw i’n codwyr arian i gymryd rhan mewn digwyddiadau ar draws y Penwythnos Cwrs Hir cyfan.
“Gofynnwn i godwyr arian addo codi isafswm mewn nawdd, yn dibynnu ar ba ddigwyddiad y maent yn cymryd rhan ynddo. Gall codwyr arian ddewis cefnogi ysbyty, ward, gwasanaeth neu adran benodol neu gallant ddewis codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol.
“Mae ein nifer cyfyngedig o leoedd am ddim yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin, felly os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â ni!”
Dywedodd Matthew Evans, Prif Swyddog Gweithredol Penwythnos Cwrs Hir: “Rydym wrth ein bodd mai ein helusen GIG leol yw’r partner “Powered By” ar gyfer Hanner Marathon Cymru 2023. Mae Hanner Marathon Cymru yn ddigwyddiad arbennig i gynifer o bobl ac rydym yn wrth ein bodd y byddwn gyda’n gilydd yn codi arian at achos mor wych.”
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn sicrhau lle am ddim yn unrhyw un o’r digwyddiadau gofrestru yn: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/elusennau-iechyd-hywel-dda/elusennau-iechyd-hywel-dda1/penwythnos-cwrs-hir-2023/ neu gallant gysylltu â Thîm Elusennau Iechyd Hywel Dda yn uniongyrchol dros y ffôn ar 01267 239815 neu drwy e-bost yn Fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk.
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.