Rhedodd staff o’r Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili Hanner Marathon Caerdydd a chodwyd £4,200 tuag at ardd ICU newydd.
Fe wnaeth staff o’r uned rhedeg yr hanner marathon ar 1 Hydref 2023 i godi arian ar gyfer yr ardd.
Bydd yr ardd yn cefnogi cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ICU gyda’u taith i adferiad. Bydd yn rhoi hwb therapiwtig i gleifion, gan roi ymdeimlad o normalrwydd iddyn nhw a’u hanwyliaid.
Bydd yr ardd yn caniatáu amser i ffwrdd o’r ardal glinigol, gan ddarparu lle heddychlon i gleifion gwrdd â theulu a ffrindiau a hefyd cyfle i weld eu hanifeiliaid anwes cariadus. Bydd yr ardd hefyd yn lle tawel i staff ac yn cefnogi eu lles.
Dywedodd Nerys Davies, Uwch Reolwr Nyrsio: “Roedd y diwrnod yn anhygoel, fe wnaethon ni i gyd fwynhau’n fawr ac rydym yn ddiolchgar iawn am roddion hael pawb. Rydyn ni i gyd yn falch iawn.
“Rydym am i’r arian fynd tuag at gyflawni ein breuddwyd o adeiladu gardd ICU y bydd cleifion ac aelodau o’u teuluoedd yn gallu ei mwynhau.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Am ymdrech tîm gwych! Diolch yn fawr iawn i holl staff yr ICU yn Glangwili a gymerodd ran yn Hanner Marathon Caerdydd.
“Mae cefnogaeth ein codwyr arian gwych yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.