Mae arweinwyr Cynghorau Dyfed wedi osgoi trafod â Chymdeithas yr Iaith am ddyfodol ysgolion gwledig yr ardal ar faes yr Eisteddfod.
Mae Cyngor Sir Benfro yn cau Ysgol Clydau, Tegryn. Ar yr un pryd, mae Cynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy a Gwynedd wedi bod yn ceisio cau ysgolion gwledig Cymraeg.
Cynhaliodd y Gymdeithas drafodaeth banel fer gyda Chynghorydd Sir Gaerfyrddin, Jean Lewis, ac eraill, ac yna aethpwyd ymlaen i Bentre’r Garreg Las i geisio atebion oddi wrth arweinwyr Cyngor Sir Ceredigion Penfro a Sir Gâr.
Gwahoddwyd arweinwyr y tri Cyngor i roi atebion, ond fe wnaethant osgoi trafod â’r Gymdeithas am y mater.
Meddai Cris Tomos, Prif Weithredwr Planed, ac un o’r siaradwyr ar y panel:
“Dwi’n credu bod rhaid i ni wthio Llywodraeth Cymru i feddwl yn fwy creadigol a thymor hir. Rydym yn ymfalchïo bod y Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Future Generations Act) cyntaf yn y byd gyda ni yng Nghymru. Wel dyma’n cenedlaethau’r dyfodol gyda ni o’n blaen. A beth ydyn ni’n gwneud? Ni’n cau nhw allan o’u cymunedau eu hunain.”
Dwi wir yn gobeithio bydd Llywodraeth dan Blaid Cymru yn dilyn y weledigaeth, dilyn yr addewid ac yn edrych i warchod, cadw ac ail-agor ysgolion bach gwledig yn y degawdau i ddod. Dyna dwi’n gofyn arnynt a dewch i ni weithio gyda’n gilydd ar gyfer dyfodol ein cymunedau Cymraeg.”
Meddai Ffred Ffransis, ar ran Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’n gwbl warthus bod arweinwyr y tri Chyngor wedi osgoi siarad â ni. Fel dywedodd Gwynfor Evans, ‘cymuned o gymunedau yw Cymru’ a bob tro rydym yn colli cymuned, rydym yn colli rhan o Gymru.”