Llwyddiant Safon Uwch yng Ngheredigion

Mae disgyblion ledled Ceredigion yn dathlu ar ôl derbyn eu canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol a chymwysterau galwedigaethol heddiw.

Mae 98% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC wedi derbyn graddau A*-E; 80% wedi ennill graddau A*-C; 57% wedi ennill graddau A*-B a 32% yn ennill graddau A*-A.

Mae ysgolion y sir wedi llongyfarch eu dysgwyr ar eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u dyfalbarhad dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda llawer bellach yn symud ymlaen i addysg uwch, prentisiaethau, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: “Mae canlyniadau eleni yn adlewyrchu ymroddiad a gwytnwch ein pobl ifanc, ynghyd â’r gefnogaeth ragorol a ddarperir gan ein hysgolion, eu teuluoedd a’n cymunedau. Hoffwn longyfarch pob dysgwr ar eu cyflawniadau ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y byddant yn ei chael wrth iddynt gymryd eu camau nesaf.”

Dywedodd Elen James, Prif Swyddog Addysg Ceredigion: “Hoffwn unwaith eto eleni fynegi fy malchder yn llwyddiant holl ddysgwyr Ceredigion, wrth iddynt dderbyn canlyniadau Safon Uwch, Cyrsiau Galwedigaethol ac Uwch Gyfrannol rhagorol. Mae’n bleser gwirioneddol gweld canlyniadau mor gadarnhaol, sy’n dyst i’w hymdrechion drwy gydol y flwyddyn.

Hoffwn hefyd fynegi fy niolch diffuant i’r holl athrawon a staff am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad wrth baratoi’r dysgwyr mor drylwyr. Diolch hefyd i’r dysgwyr am eu holl waith caled, ac i’w teuluoedd a’u gwarchodwyr am eu cymorth parhaus.

Dymunwn bob llwyddiant i bob un o’r dysgwyr wrth iddynt gymryd y camau nesaf cyffrous yn eu bywyd, boed hynny yn astudio gradd mewn prifysgol, dilyn cwrs prentisiaeth, mynychu coleg addysg bellach neu ymuno â’r byd gwaith.”

Dymuniadau gorau i’r holl ddisgyblion ar gyfer y dyfodol.

You cannot copy any content of this page