| Fe wnaeth grŵp Agrisgôp, dan arweiniad Rhian Jones, sydd hefyd yn Bencampwr Rhanbarthol ar gyfer Sefydliad DPJ ddod â naw o ffermwyr o fentrau cymysg bîff, defaid, llaeth a dofednod ynghyd i edrych ar sut i wella iechyd meddwl yn y gymuned amaeth. |
| Fel un o wasanaethau hynaf Cyswllt Ffermio, mae Agrisgôp wedi bod yn cynorthwyo ffermwyr a thyfwyr i gydweithio i ddatrys heriau busnes go iawn ers 2023. Mae’r gwasanaeth dan arweiniad ffermwyr sydd wedi’i ariannu’n llawn yn dod â grŵp o unigolion o’r un anian ynghyd i ddatblygu syniadau, edrych ar gyfleoedd a llywio prosiectau ymlaen mewn amgylchedd ymarferol a chefnogol.
Trwy gyfuniad o drafodaeth gyda chymheiriaid, gweithgareddau ymarferol a mewnbwn arbenigol, rhannodd aelodau’r grŵp brofiadau personol a nodwyd straenachoswyr cyffredin. Wrth wneud hynny, datblygwyd strategaethau ymdopi megis gwella rhyngweithiad cymdeithasol, gweithgaredd corfforol a mabwysiadu meddylfryd cadarnhaol.
Cymerodd y grŵp ran mewn ystod o weithgareddau ymarferol, gan gynnwys ymweld â menter ffitrwydd ar y fferm, rhoi cynnig ar dechnegau meddylgarwch ac edrych ar rôl diet, hydradiad a newidiadau i ffordd o fyw wrth gefnogi lles. Darparodd y siaradwyr gwadd cipolwg ar wytnwch, newid ymddygiad, cwnsela ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn ogystal ag arweiniad ar adnabod arwyddion o iechyd meddwl gwael a chynorthwyo eraill. Bu i aelodau fyfyrio ar eu hymddygiad eu hunain, pennu pwyntiau gweithredu personol ac arbrofi gyda dulliau newydd megis sesiynau yn y gampfa, ioga a gwell maeth drwy gydol y rhaglen. Un o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol i Ffion oedd ymuno â’r gampfa ar ôl cydnabod bod angen rhywbeth y tu allan i’r fferm arni iddi hi ei hun.
Yn gyffredinol, cyfunodd y grŵp sgiliau dysgu ar y cyd gyda chamau ymarferol i helpu aelodau i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl eu hunain yn well, wrth gryfhau eu gallu i gynorthwyo eraill yn y gymuned amaeth.
Cred bod gofalu am eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â gofalu am y fferm a gall newidiadau bach neu estyn allan i eraill wneud gwahaniaeth mawr.
P’un a ydych yn edrych i arallgyfeirio, datgloi potensial menter bresennol neu gysylltu ag eraill i rannu syniadau a phrofiadau, mae Agrisgôp yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i’ch nodau. Gyda hwyluso arbenigol, mynediad at siaradwyr arbenigol, ymweliadau astudio a hyfforddi un i un dewisol, mae Agrisgôp yn darparu’r offer a hyder i droi syniadau’n gamau ymarferol. Os oes gennych ddiddordeb dechrau grŵp Agrisgôp neu ymuno ag un, edrychwch ar gyfeirlyfr Arweinwyr Agrisgôp i ddod o hyd i hwylusydd yn eich ardal. Agrisgôp | Cyswllt Ffermio |
Newidiadau Cadarnhaol Wrth i Grŵp Agrisgôp Ganolbwyntio ar Gefnogi Lles Ffermwyr