Yn y llun uchod: Mae Claire, Laura a Darren o Gynghrair Dartiau Jack n Jill Llanelli a’r Cylch yn cyflwyno siec i Bryony Mared Phillips, Uwch-reolwr Nyrsio; Rhian Jones, Nyrs Staff; a Kath Watkins, Uwch Brif Nyrs
Mae cynghrair dartiau yn Llanelli wedi codi swm gwych o £436 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip drwy ei gystadleuaeth dartiau elusennol flynyddol.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Gynghrair Dartiau Jack n Jill Llanelli a’r Cylch – grŵp sy’n rhedeg cynghrair dartiau ar gyfer tafarndai lleol yn Llanelli a’r cyffiniau ar nosweithiau Sul – yng Nghlwb Cymdeithasol Morfa ym mis Ebrill 2026.
Trefnir y gystadleuaeth flynyddol i godi arian ar gyfer elusennau lleol, gydag aelodau’r gynghrair yn enwebu achosion sy’n agos at eu calonnau.
Dywedodd Claire Hitchman, y Trysorydd: “Mae’r elusen yn wahanol bob blwyddyn. Gan mai dyma fy nhymor cyntaf fel trysorydd, roeddwn i eisiau canolbwyntio ar rywbeth lleol. Gan fod gan fy ngŵr ganser terfynol, rwy’n deall faint o ymdrech mae’r nyrsys yn ei roi i ofalu am bob unigolyn. Felly, awgrymais i’r pwyllgor y dylid rhoi’r arian i Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Tywysog Philip.”
“Roedd hi’n noson wych ac fe wnaeth pobl gyfrannu’n hael. Codwyd £436 gennym, sef y swm mwyaf i’r digwyddiad hwn ei godi erioed.”
Dywedodd Kath Watkin, Uwch Brif Nyrs: “Ar ran y staff a’r cleifion yn Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Tywysog Philip, hoffwn ddiolch i chi am eich ymdrechion codi arian a arweiniodd at rodd hael i’r uned.”
“Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella’r amgylchedd a’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Cemotherapi Dydd. Gallwch fod yn sicr y caiff yr arian hwn ei ddefnyddio ar gyfer y gwelliant hwn. Diolch!”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Hoffem longyfarch yn fawr bawb sy’n rhan o Gynghrair Dartiau Jack n Jill Llanelli a’r Cylch am godi swm mor sylweddol.”
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i hywelddahealthcharities.nhs.wales.