Bwrdd Iechyd i geisio barn ar newidiadau i wasanaethau obstetreg yn Ysbyty Tywysog Philip

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ceisio adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau, staff a rhanddeiliaid ar newidiadau arfaethedig i wasanaethau obstetreg a ddarperir ar hyn o bryd trwy gytundeb â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.

Ar hyn o bryd, mae’r cytundeb yn rhan o fodel gofal hybrid, lle mae pobl sy’n byw yn ardal Hywel Dda sy’n dewis rhoi genedigaeth yn Ysbyty Singleton yn derbyn elfennau o’u gofal cynenedigol gan y ddau fwrdd iechyd.

Mae’r model hwn wedi rhoi mynediad i deuluoedd lleol at ofal mamolaeth dan arweiniad ymgynghorydd yn Abertawe, gan ganiatáu i rai apwyntiadau ddigwydd yn agosach at adref.

Fodd bynnag, mae trafodaethau rhwng y ddau fwrdd iechyd wedi dod i’r casgliad bod y model presennol yn cyflwyno heriau oherwydd gwahaniaethau mewn canllawiau clinigol, polisïau a threfniadau llywodraethu rhwng y sefydliadau.

Mae adolygiadau wedi nodi y gall y gwahaniaethau hyn greu anghysondebau oherwydd trefniadau sefydliadol a llywodraethu gwahanol ar draws y ddau fwrdd iechyd.

O ganlyniad, mae’r ddau sefydliad wedi cytuno y bydd dod â’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth i ben yn cefnogi llwybr mwy diogel, cydlynol a chynaliadwy i fenywod a babanod, gan gryfhau llywodraethu clinigol, parhad gofal ac atebolrwydd.

O dan y trefniadau arfaethedig, byddai pobl sy’n byw yn ardal Hywel Dda sy’n dewis rhoi genedigaeth yn Ysbyty Singleton yn derbyn eu gofal cynenedigol dan arweiniad ymgynghorydd yn Abertawe, tra’n parhau i dderbyn gofal bydwreigiaeth cymunedol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Fodd bynnag, os nad oes angen goruchwyliaeth gan ymgynghorydd ar eu beichiogrwydd, byddant yn parhau i dderbyn gofal bydwreigiaeth gymunedol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Er mwyn cynnal darpariaeth leol i’r rhai sy’n dewis rhoi genedigaeth yn Sir Gaerfyrddin, byddai’r clinig presennol yn Ysbyty Tywysog Philip yn cael ei ddisodli gan glinig obstetreg dan arweiniad Hywel Dda.

Ar 6 Mehefin 2026, derbyniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hysbysiad ffurfiol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a disgwylir i’r contract ddod i ben ar 9 Rhagfyr 2026, yn amodol ar gwblhau ymgysylltu â’r cyhoedd.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn cynnal ymarfer ymgysylltu chwe wythnos o 17 Awst 2026 i gasglu barn i ddeall effaith bosibl y newid hwn yn well a’r hyn y gellid ei roi ar waith i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth.

Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rhaid i ddiogelwch ac ansawdd gofal i fenywod beichiog a phobl a babanod fod yn brif ystyriaeth i ni bob amser.

“Mae’r trefniant presennol wedi galluogi pobl o’n hardal i gael mynediad at wasanaethau mamolaeth dan arweiniad ymgynghorydd yn Abertawe wrth fynychu rhai apwyntiadau yn agosach at adref. Fodd bynnag, mae adolygiadau a gynhaliwyd gan y ddau fwrdd iechyd wedi tynnu sylw at y ffaith y gall gweithredu ar draws dau sefydliad â fframweithiau clinigol a llywodraethu gwahanol greu heriau.

“Bydd y broses ymgysylltu yn ein helpu i ddeall unrhyw effaith o’r newidiadau yn well a sicrhau bod adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth, staff a rhanddeiliaid yn cael ei ystyried wrth i ni gynllunio gweithredu’r ffyrdd newydd o weithio. Mae darparu’r gwasanaeth o’r ansawdd uchaf i’n teuluoedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.”

I gael gwybod am gyfleoedd i ddweud eich dweud ar sut mae gwasanaethau iechyd lleol yn cael eu cynllunio, eu datblygu a’u darparu ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ymunwch â’n cynllun cynnwys ac ymgysylltu Siarad Iechyd / Talking Health. Ymunwch heddiw trwy ymweld â https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/

Cyhoeddir manylion y broses ymgysylltu, gan gynnwys sut y gall pobl rannu eu barn, cyn i’r cyfnod ymgysylltu ddechrau ar 17 Awst 2026.

You cannot copy any content of this page