Wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin adolygu ei Gynllun Moderneiddio Addysg mae Cymdeithas yr Iaith yn y rhanbarth wedi galw ar y cyngor i ddefnyddio’r cyfle i greu cynllun blaengar sy’n cynnwys pawb ac yn cynnig atebion newydd.
Cyn etholiadau awdurdodau lleol llynedd penderfynodd y cyngor oedi ei gynlluniau i ymgynghori ar gau ysgolion Blaenau a Mynydd-y-garreg er mwyn adolygu’r Cynllun Moderneiddio Addysg. Dydy dyfodol yr un o’r ysgolion hynny, na sawl un arall yn y sir, ddim yn sicr er hynny.
Yn ôl y llythyr:
“Rydyn ni nawr yn wynebu dewis go iawn. Gall ‘moderneiddio’ addysg barhau i fod yn ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cau cymaint o ysgolion bach â phosibl, nawr bod etholiad wedi digwydd. Ar y llaw arall, gallai hwn fod yn adolygiad gwirioneddol ddychmygus o sut y gallai moderneiddio gryfhau ac ailfywiogi cymunedau yn hytrach na’u tanseilio. Os ydym wir yn dymuno adfywio ein cymunedau gwledig ac ôl-ddiwydiannol Cymraeg eu hiaith, pa ffordd well na chael ffocws cymunedol ym mhob un, wedi’i seilio’n bennaf ar ddinasyddion yfory ac yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg? Gallai cynllun arloesol ar gyfer moderneiddio ysgolion ehangu eu dylanwad yn hytrach na’u cau.”
Yn ôl yn 2005, rhestrodd y Cynllun ddwsinau o ysgolion y dylid eu cau fel rhan o strategaeth i ddenu cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu ysgolion canolog newydd gyda phwyslais ar gyfleusterau modern gan mai’r canfyddiad cyffredinol yw nad ydy ysgolion bach neu wledig yn derbyn buddsoddiad.
Ond fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles gadarnhau yn ddiweddar nad oes rhagdybiaeth yn erbyn buddsoddi o gronfa ysgolion yr 21ain ganrif i ysgolion bach.
Mae llythyr Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y cyngor i “[g]ymryd y Gweinidog Addysg wrth ei air a chyflwyno cais am gyllid ar gyfer to newydd i Ysgol Mynydd-y-garreg a phrosiectau tebyg. Mae’n bryd datgan, ar ôl degawdau o esgeulustod, bod cymunedau gwledig hefyd yn haeddu eu cyfran deg o arian cyfalaf.”
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.