Bydd Tasglu Newydd yn ‘Hyrwyddo Dyfodol Canol Trefi Cymru’

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyd-gadeiryddion y Tasglu Canol Trefi newydd, ochr yn ochr â £1 miliwn o gyllid newydd i gefnogi prosiectau adfywio ym Mangor a Phen-y-bont ar Ogwr.

Bydd Tamsin Ramasut a’r Athro Simon Gibson CBE yn arwain y tasglu, a fydd yn darparu cyngor ymarferol ac arbenigol ar gefnogi dyfodol canol trefi Cymru. Mae eu penodiad yn cyflawni ymrwymiad allweddol y Llywodraeth i sefydlu’r tasglu o fewn ei 100 diwrnod cyntaf.

Gan weithio gydag aelodau o fusnes, llywodraeth leol, adfywio, cynllunio, y byd academaidd a chymunedau, bydd y cyd-gadeiryddion yn goruchwylio rhaglen waith i ddatblygu argymhellion ymarferol i Weinidogion Cymru ar sicrhau dyfodol canol trefi.

Mae Tamsin Ramasut yn ymarferydd profiadol ym maes adfywio, creu lleoedd ac ymgysylltu â’r gymuned. Trwy ei gwaith gyda Pont Collective a rolau blaenorol, mae wedi cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau adfywio a mentrau seiliedig ar leoedd ledled Cymru a thu hwnt.

Mae’r Athro Simon Gibson CBE yn hwylusydd arloesedd Cymru ers amser maith. Fel sylfaenydd Alacrity ac yn ei rolau arwain blaenorol yn Wesley Clover ac Awdurdod Datblygu Cymru, mae wedi helpu i ddenu buddsoddiad, cefnogi entrepreneuriaeth a sbarduno twf busnes ledled Cymru, profiad a fydd yn amhrisiadwy i waith y Tasglu.

Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â phrosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru yng nghanol tref Bangor, lle cadarnhawyd £654,000 ar gyfer gwelliannau i dir y cyhoedd hefyd. Mae £350,000 arall wedi’i gadarnhau i gefnogi’r gwaith o adfywio Canolfan Siopa’r Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian: “Mae canol trefi yn parhau i fod yn galon ein cymunedau. Maent yn lleoedd lle mae pobl yn gweithio, yn cael mynediad at wasanaethau, treulio amser gyda theulu a ffrindiau, a chymryd rhan mewn bywyd dinesig a diwylliannol.

Ond maen nhw’n parhau i wynebu heriau sylweddol oherwydd y ffaith bod ymddygiad defnyddwyr yn newid, pwysau economaidd a’r rôl y mae canol trefi yn ei chwarae ym mywydau pobl bob dydd.

“Dyna pam rydyn ni’n sefydlu’r tasglu hwn i hyrwyddo dyfodol canol trefi Cymru. Bydd ei waith yn canolbwyntio ar nodi camau gweithredu a all herio’r dirywiad, a’r newid yn y defnydd i gynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi busnesau Cymru, denu buddsoddiad a chryfhau bywiogrwydd hirdymor ein trefi a chanol ein dinasoedd.

Dywedodd Tamsin Ramasut: “Mae’n anrhydedd i mi gyd-gadeirio’r tasglu cenedlaethol hwn. Mae canol trefi yn ganolog i gymunedau ffyniannus – lleoedd lle mae pobl yn cysylltu, busnesau lleol yn tyfu ac yn darparu gwaith a chreu ymdeimlad o berthyn. Rwy’n edrych ymlaen at weithio ar y cyd i helpu ein canol trefi i ffynnu ledled Cymru.”

Meddai’r Athro Simon Gibson CBE: “Mae ein canol trefi yn hanfodol i gymunedau ac economïau lleol ledled Cymru, ond maent yn wynebu heriau sylweddol sy’n gofyn am weithredu brys a syniadau ffres. Rwy’n falch o gyd-gadeirio’r Tasglu hwn, sy’n dod ag arweinwyr o bob sector at ei gilydd i ddatblygu atebion arloesol, ymarferol sy’n cael gwared ar rwystrau i dwf, cadw presenoldeb a helpu i greu canol trefi mwy bywiog a gwydn sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.”

You cannot copy any content of this page