Anogir ymwelwyr â’r Eisteddfod yn Llantwd (1-8 Awst) i wneud y defnydd gorau o’r gwasanaethau iechyd a gofal sydd ar gael iddynt yn ystod yr wythnos nesaf er mwyn cadw eu hunain a’u teuluoedd yn ddiogel ac yn iach.
Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Llantwd mewn rhan hardd o orllewin Cymru, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o bell ac agos i’r Eisteddfod. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Eisteddfod, y gwasanaethau brys, i sicrhau bod cymorth meddygol ar gael i ymwelwyr â’r Maes a Maes B.
“Er mwyn cadw’ch hun yn iach ac osgoi taith i gyfleuster gofal iechyd, yfwch ddigon o ddŵr, defnyddiwch eli haul yn y gwres, ac yfwch yn gyfrifol. Cofiwch fynd â’ch meddyginiaethau arferol gyda chi hefyd.
“Gall pobl sydd angen cymorth gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau cymorth, gan gynnwys ymweld â’r fferyllfeydd lleol yn Aberteifi, Crymych, Trefdraeth ac Aberporth.”
“Mae gennym wasanaethau eraill ar gyfer mân anafiadau neu wasanaethau galw heibio yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod, yn ogystal ag yn ein prif ysbytai acíwt. Am oriau agor, edrychwch ar ein gwefan: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/ysbytai-a-chanolfannau/unedau-man-anafiadau/
“Mae Uned Mân Anafiadau ac Adran Achosion Brys (A&E) ar gael yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth neu Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.
“Os oes angen cymorth meddygol arnoch, meddyliwch yn ofalus am y gwasanaethau a ddewiswch.”
Mae manylion y gwasanaethau fferyllol sydd ar gael yn cael eu rhannu gydag ymwelwyr â’r Eisteddfod. I ddod o hyd i fferyllfa gyfagos sy’n diwallu eich anghenion yn ardal Llantwd, ewch I https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/ am wybodaeth am driniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin, cyflenwi meddyginiaethau a gwasanaethau atal cenhedlu.
Os ydych chi’n sâl ac yn ansicr beth i’w wneud, gallwch ymweld â’r gwiriwr symptomau ar-lein – https://111.wales.nhs.uk/selfassessments/?locale=cy&term=A neu ffoniwch GIG 111.
Mynychwch Adran Achosion Brys os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol, fel:
• Anhawsterau anadlu difrifol
• Poen neu waedu difrifol
• Poen yn y frest neu strôc a amheuir
• Anafiadau trawma difrifol (e.e. o ddamwain car)
Os oes gennych anaf llai difrifol, ewch i un o’n Hunedau Mân Anafiadau. Gallant drin oedolion a phlant dros 12 mis oed, gydag anafiadau fel:
• Mân Glwyfau
• Llosgiadau neu sgaldiadau bach
• Brathiadau pryfed
• Anafiadau bach i’r breichiau, pen neu’r wyneb
• Darnau tramor yn y trwyn neu’r glust
Helpwch ni i wneud yr Eisteddfod yn ddigwyddiad gwych i bawb, a rhannwch yr wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu, diolch.