Cleifion canser y gwaed yn Sir Benfro a Cheredigion yn elwa o gronfeydd elusen y GIG

Mae dwy Nyrs Glinigol Arbenigol Haematoleg (CNS) dan hyfforddiant newydd yn Sir Benfro a Cheredigion yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad cleifion canser y gwaed yn y ddwy sir. Ariennir y CNS gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda 50% o arian cyfatebol ar gyfer CNS Sir Benfro yn cael ei ddarparu gan Gronfa Apêl Uned Ddydd Canser Llwynhelyg.

Mae CNS Haematoleg yn darparu gofal arbenigol i gleifion canser y gwaed. Mae tua 80 o gleifion yr ardal yn cael diagnosis o ganser y gwaed o fewn blwyddyn galendr.

Mae’r Tîm CNS Haematoleg yn gweithredu fel gweithwyr allweddol i gleifion o’r pwynt diagnosis, gan feithrin perthnasoedd therapiwtig cryf gyda’r claf a’i deulu a gweithredu fel ffynhonnell ganolog o gefnogaeth.

 

Mae’r fenter yn rhoi cyfle i’r ddwy CNS dan hyfforddiant gysgodi gwaith y nyrsys arbenigol presennol, cymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddi, ac ymweld â thimau arbenigol tebyg ledled de Cymru. Y nod yw cynyddu’r sylfaen wybodaeth a diogelu sgiliau o fewn y timau nyrsio clinigol.

 

Mae’r cronfeydd elusennol yn talu am ddau hyfforddai CNS Haematoleg am dri diwrnod yr wythnos am gyfnod o dair blynedd. Mae’r CNS wyth mis i mewn i’r rhaglen ar hyn o bryd.

 

Dywedodd Gina Beard, Nyrs Ganser Arweiniol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r ddwy CNS nid yn unig yn gwella profiad y claf yn sylweddol ar hyd eu llwybr gofal; maent hefyd yn sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaeth haematoleg yn ein hardaloedd mwy gwledig.

 

“Mae ffigurau diweddar yn dangos nifer arbennig o uchel o swyddi gwag ar gyfer nyrsys haematoleg yng Nghymru. Mae’r ddarpariaeth gwasanaeth bresennol o fewn y bwrdd iechyd yn fregus, a bwriad y ddwy swydd hyn yw cynorthwyo i ddiogelu’r gwasanaeth at y dyfodol.

 

“Mae Arolwg Profiad Cleifion Canser Macmillan Cymru yn dangos bod cleifion sydd â mynediad at CNS yn adrodd am brofiad sylweddol well. Mae darpariaeth barhaus rôl y CNS ar gyfer cleifion â chanser y gwaed yn gyfle perffaith i wella profiad y claf yn ardal y bwrdd iechyd.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym mor falch o allu ariannu swyddi fel y rhain sy’n dod â buddion mor amlwg a chynaliadwy i gleifion.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad, cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydbihyweldda.org.uk

You cannot copy any content of this page