Peidiwch â rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth ambiwlans yn ystod streiciau – y Gweinidog Iechyd

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, wedi annog pobl i gymryd gofal ychwanegol a dim ond ffonio 999 mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd neu argyfwng difrifol yn ystod streiciau ambiwlans.

Bydd y cyntaf o ddau ddiwrnod ar wahân o weithredu diwydiannol sydd wedi’i gynllunio gan rai staff ambiwlans yn dechrau yfory, a disgwylir y bydd effaith ddifrifol ar wasanaethau ambiwlans. Mae undeb GMB wedi cyhoeddi y bydd ei aelodau yn y gwasanaethau ambiwlans yn mynd ar streic ar 21 a 28 Rhagfyr.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn disgwyl y bydd amharu sylweddol ar nifer yr ambiwlansys brys sy’n gallu mynd at gleifion ar ddiwrnodau’r streic.

Bydd gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys, sy’n helpu cleifion i fynd i apwyntiadau ysbyty, hefyd wedi’u heffeithio, yn ogystal â staff ateb galwadau anghlinigol yng nghanolfannau cyswllt Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a rhai gwasanaethau cymorth.

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi rhybuddio mai dim ond achosion o salwch neu anafiadau sy’n peryglu bywyd sy’n debygol o gael ymateb brys ar ddiwrnodau’r streic. Cynghorir cleifion i beidio â ffonio 999 oni bai bod rhywun yn ddifrifol wael neu wedi’u hanafu’n ddifrifol, neu fod bywyd yn y fantol.

Bydd y cleifion salaf yn parhau i gael eu blaenoriaethu, ac ni fydd cleifion sy’n llai sâl, neu ag anafiadau llai difrifol yn cael ymateb ambiwlans. Gall hyn hefyd olygu y bydd angen i gleifion ddod o hyd i ffordd arall o gyrraedd yr ysbyty os nad yw bywyd yn y fantol, cyn belled eu bod yn teimlo ei bod yn ddiogel iddynt wneud hynny.

Cynghorir pobl i ddefnyddio gwefan GIG 111 Cymru i gael cyngor iechyd os nad yw bywyd yn y fantol. Gallwch hefyd siarad gyda’ch fferyllydd, eich meddyg teulu neu fynd i uned mân anafiadau.

Dywedodd Eluned Morgan:

“Does dim amheuaeth y bydd y ddau ddiwrnod o weithredu diwydiannol, yn fuan iawn ar ôl gweithredu gan nyrsys a achosodd oedi yn nhriniaeth miloedd o gleifion yng Nghymru, yn rhoi pwysau aruthrol ar y gwasanaethau ambiwlans. Dim ond y galwadau mwyaf brys y bydd ambiwlansys yn gallu ymateb iddynt ar ddiwrnodau’r streic.

“Peidiwch â rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau ar y diwrnodau hyn a meddyliwch yn ofalus am y gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud yfory ac ar yr 28ain.

“Mae’n bwysig eich bod yn ffonio 999 os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ond mae’n rhaid i bob un ohonom ystyried yn ofalus iawn sut rydym yn defnyddio’r gwasanaethau ambiwlans ar y diwrnodau hyn.

“Fel defnyddwyr ein GIG, mae’n hanfodol bod pob un ohonom yn gwneud popeth gallwn i leihau’r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn ystod y gweithredu diwydiannol.”

Gall pawb helpu i leddfu’r pwysau drwy:

Sicrhau bod gennych gyflenwadau digonol o feddyginiaethau presgripsiwn a meddyginiaethau dros y cownter ar gyfer anhwylderau cyffredin i leihau’ch risg o fynd yn sâl ar ddiwrnodau’r streic.
Sicrhau bod gennych gyflenwadau cymorth cyntaf digonol rhag ofn y bydd angen ichi drin mân anafiadau gartref.
Cymryd gofal ychwanegol yn ystod y tywydd oer i osgoi llithro, baglu a chwympo, a damweiniau ar y ffordd.
Cadw llygad ar unrhyw aelodau o’ch teulu, ffrindiau a chymdogion sydd mewn sefyllfaoedd bregus.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page