Rhun ap Iorwerth yn ymweld â Llanelli ar daith yr arweinydd

Bu Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, yn ymweld â Llanelli ddoe (dydd Iau, 5 Chwefror) fel rhan o’i daith o Gymru cyn etholiad y Senedd fis Mai eleni.

Ymunodd Mari Arthur, Cefin Campbell a Nerys Evans, ymgeiswyr Plaid Cymru yn etholaeth Sir Gaerfyrddin ar gyfer yr etholiad, ag ef am gymal yma’r daith, yn ogystal â’r cyfarfod cyhoeddus yn y Diplomat gyda’r nos.

Mae’r arolygon barn diweddaraf i gyd yn awgrymu mai brwydr uniongyrchol rhwng Plaid Cymru a Reform UK fydd ym Mai eleni, gyda chefnogaeth i’r Blaid Lafur wedi dymchwel, a’r gefnogaeth i’r Blaid Werdd a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn debygol o fod rhy wan i ennill sedd yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus:

“Roedd hi’n wych cael y cyfle i siarad efo pobl Llanelli heddiw am beth sy’n bwysig iddyn nhw, gydag adfywio canol trefi a’r economi leol yn thema amlwg. Roedd y cynhesrwydd cynyddol tuag at Blaid Cymru yn galonogol iawn, hefyd, gyda chymaint o bleidleiswyr yn troi oddi wrth Lafur ac wedi’u dychryn gan y syniad o lywodraeth Reform.

“Does dim dwywaith erbyn hyn, gyda llai na chan niwrnod tan yr etholiad i’r Senedd, mai ras dau geffyl fydd hi rhwng Plaid Cymru a Reform. Mae’r neges i bawb sydd eisiau rhoi arweinyddiaeth o’r newydd i Gymru a chadw Reform allan o lywodraeth yn amlwg – dewch efo ni.”

Yn ystod y daith, pwysleisiodd Mr ap Iorwerth yr angen i adfywio canol trefi Sir Gâr, gan gynnwys tref Llanelli ei hun. Er mwyn cyflawni hynny, mae ei Blaid yn cynnig creu system newydd ar gyfer gosod trethi busnes lle mae cwmnïau annibynnol, lleol yng nghanol trefi yn talu llai a chwmnïau rhyngwladol mwy ar y cyrion yn talu mwy.

Ychwanegodd Mari Arthur, un o ymgeiswyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin:

“Fel person busnes sy’n byw yn Llanelli, rwy’ wedi profi fy hun y rhwystrau sy’n atal twf a datblygiad cwmnïau lleol, annibynnol yn fy ardal i. Does dim dwywaith fod trethi busnes annheg yn ychwanegu at yr holl heriau eraill, o’r argyfwng costau byw i gystadleuaeth gan werthwyr ar-lein anferth.

“O sefydlu trefn newydd ar gyfer trethi busnes, gallwn sicrhau tegwch, rhoi bywyd newydd i ganol ein trefi, a helpu creu a chynnal swyddi da yn lleol. Bydd hyn i gyd yn cryfhau ein heconomi leol.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page