Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer ardal lanwol Aberteifi yn dilyn glaw trwm yn ystod Storm Austen a Storm Boelo, gyda rhagor o law yn cael ei ragweld dros nos.
Mae disgwyl i lifogydd effeithio ar eiddo ger yr afon rhwng Pont Aberteifi a phont ffordd yr A487, gan gynnwys The Strand, Stryd Santes Fair, Rhes Gloster a Pwllhai, yn ogystal â maes parcio’r archfarchnad ac eiddo cyfagos.
Mae angen gweithredu ar unwaith.
Byddwch yn ofalus wrth deithio yn yr ardal a pheidiwch â gyrru drwy ddŵr llifogydd.
Rhowch wybod i Gyngor Sir Ceredigion am achosion o lifogydd drwy e-bostio CLIC@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881 yn ystod oriau swyddfa.
Mewn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa, cysylltwch â:
- 01970 625277 ar gyfer Gogledd Ceredigion
- 01239 851604 ar gyfer De Ceredigion
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, edrychwch ar Rybuddion Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Os ydych yn poeni neu’n profi llifogydd, cysylltwch â Floodline ar 0345 988 1188.