Cynorthwyo â’r Chwyldro Digidol: Chwilio am fusnesau yng Nghanolbarth Cymru i fod yn rhan o’r Arolwg Cysylltedd

Wrth i’r tirwedd digidol barhau i ddatblygu, bu i Tyfu Canolbarth Cymru gyhoeddi eu bod yn lansio Arolwg Cysylltedd Digidol i Fusnesau, a anelwyd at fusnesau ar draws y rhanbarth er mwyn iddynt feddu ar well dealltwriaeth o’u hanghenion cyfredol a’u hanghenion i’r dyfodol.

Mae’r fenter hon yn rhan o Raglen Ddigidol Bargen Dwf Canolbarth Cymru, a luniwyd i wella’r isadeiledd digidol a chefnogi twf busnesau yn ein rhanbarth.

Nod yr arolwg yma fydd ymgysylltu â gymaint â phosib o fusnesau er mwyn cael dealltwriaeth bellach o’u hisadeiledd cyfredol, pa mor addas ydyw ar gyfer gwaith y busnes a gofynion i’r dyfodol.

Bydd y data caiff ei gasglu yn yr arolwg yma yn allweddol i gasglu gwybodaeth gwaelodlin a medru cymharu elfennau ar sail gwybodaeth priodol yn erbyn yr hyn a wneir yn y dyfodol. Drwy ddeall yn llawn yr heriau unigryw sy’n wynebu busnesau yn yr ardal a gofynion busnesau yn ein rhanbarth, gallwn arfarnu’n effeithiol effaith y prosiectau a weithredir gan y Rhaglen Ddigidol gan deilwra ein hymdrechion i wasanaethu’r gymuned yn y ffordd orau.

Credwn wrth sicrhau bod busnesau yn rhan weithredol o’r arolwg gallwn sicrhau fod ein cynlluniau digidol yn alinio’n agos ag anghenion y gymuned fusnes leol. Mae eich cyfraniad yn hanfodol i gynlluniau digidol y dyfodol.

Bydd yr arolwg yn parhau ar agor hyd 24 Mai 2024, ac anogir pob busnes i gymryd rhan. Mae eich mewnbwn yn bwysig i ni os ydych chi’n fusnes bach sydd newydd ddechrau neu’n sefydliad mawr. Gyda’n gilydd gallwn gefnogi’r gwaith o ddatblygu isadeiledd digidol mwy cadarn sy’n annog twf ac arloesi i bawb.

Er mwyn bod yn rhan o’r arolwg ewch i: https://bit.ly/BusinessDigitalSurvey (Defnyddiwch y gwymplen ‘English’ ar y dde i newid i’r ffurflen Gymraeg) Ymunwch â ni wrth lunio cysylltedd digidol yn ein rhanbarth!


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page