Cynlluniadau Mawr i ardal Tyisha

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymryd y cam cyffrous nesaf yn ei gynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid ardal Tyisha yn Llanelli drwy chwilio am bartner i ailddatblygu sawl safle yn yr ardal.

Mae Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw ffurfiol bellach yn fyw, sy’n cael ei gynnal gan GwerthwchiGymru. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth am weledigaeth y Cyngor ar gyfer Tyisha a manylion y safleoedd y mae’r Cyngor wedi’u
clustnodi ar gyfer eu hadnewyddu neu eu datblygu i ddarparu cartrefi a chyfleusterau sy’n diwallu anghenion y gymuned.

Mae pedwar safle allweddol sy’n rhan o’r cynllun, sy’n cynnwys tir gwag ac adeiladau adfeiliedig. Dyma’r safleoedd allweddol:

•            Tir gwag ar hen safle y Pedwar Tŷ (Maes-y-Gors)

 

•            Hen Ysgol Maesllyn

•            Hen Ysgol Copperworks

•            Clos Sant Paul

Gofynnir i ddarpar bartneriaid fanylu ar gynigion ar gyfer datblygu a darparu cymysgedd o fathau o dai a deiliadaethau megis tai fforddiadwy (cydberchnogaeth, tai sy’n eiddo i feddianwyr a thai cymdeithasol sy’n
cynnwys cartrefi dwy a thair ystafell wely yn bennaf).

Mae syniadau yn cael eu croesawu ar gyfer buddsoddi mewn canolfan gymunedol leol a fydd yn helpu trigolion i gael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth ac addysg yn ogystal ag amrywiaeth o adnoddau iechyd a
llesiant.

Yn ogystal a hyn, mae gan y Cyngor ddiddordeb hefyd mewn gweld cynlluniau sy’n manylu ar welliannau i’r amgylchedd drwy dirlunio, plannu coed, darpariaethau gwastraff addas, mannau storio a gwneud y datblygiadau yn gynaliadwy ar
gyfer y dyfodol. Dylid cefnogi blaenoriaeth Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli o wella cysylltiadau trafnidiaeth yn yr ardal yn y cynlluniau hefyd, gan gysylltu datblygiadau â llwybrau beiciau newydd a
phresennol yn ogystal â chynnwys digon o le parcio i leihau tagfeydd.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans Davies, yr Aelod Cabinet dros Gartrefi
a Chadeirydd Grŵp Llywio Trawsnewid Tyisha:

“Rwy’n falch iawn bod ein cynlluniau i drawsnewid ardal Tyisha yn Llanelli wedi cyrraedd y cam pwysig hwn. Yn dilyn proses lwyddiannus o ymgysylltu â’r farchnad yn gynnar y llynedd, rydym bellach wedi dechrau’r broses ffurfiol o geisio
partner datblygu i’n helpu i wireddu ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Tyisha sy’n cynnwys datblygu pedwar safle allweddol yn yr ardal, sy’n cynnwys tir ac adeiladau gwag.”

“Dylai unrhyw gynlluniau ystyried treftadaeth gyfoethog Tyisha sy’n cynnwys hen safle Ysgol Maesllyn a hen safle Ysgol Copperworks, sef yr ysgol gynradd gyntaf yn Llanelli a hefyd safle’r ysgol Gymraeg gyntaf yn
yr ardal.”

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y newidiadau mawr yma yn Nhyisha yn cael eu gwireddu a’r budd aruthrol y byddant yn eu rhoi i’r gymuned gyfan”.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page