The Minister for Education and Welsh language has announced that the Cynllun Pontio, a programme which trains primary school teachers to become secondary school teachers, will continue for the next academic year.
The Cynllun Pontio gives qualified Welsh speaking primary school teachers training and support for them to become secondary school teachers in Welsh-medium schools.
20 places are available from September as part of the fourth year of the programme. It has helped teachers to develop their careers and find permanent positions in secondary schools. Eligible primary school teachers can apply here.
The programme helps to increase the number of Welsh-medium secondary teachers. This is essential to realising our vision of achieving one million Welsh speakers by 2050.
Ffion was a primary school teacher and saw Cynllun Pontio as the perfect opportunity to take the next step in her career. She now teaches Music and Welsh at Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Speaking about her experience on the programme, Ffion said:
“In primary you are with one year group at a time for the whole year. As a secondary teacher, we have six lessons a day, so I see six different groups of individuals and that’s been really lovely. Also being able to specialise in a subject – Welsh and Music are areas that I really enjoy.
“Welsh is such a massive factor. With the goal of one million Welsh speakers by 2050 I think it’s important as a nation that we have the same goal. Especially in a Welsh-medium school where perhaps the majority of the learners don’t come from a Welsh-speaking home, it’s vital that us teachers pave the way and inspire them.
“I would highly recommend the Cynllun Pontio because although it’s difficult, it’s totally worth it. With the right mentors and support, anything is possible.”
The Minister for Education and Welsh Language, Jeremy Miles said:
“The Cynllun Pontio is a valuable opportunity for anyone looking to move from primary to secondary teaching. One of our biggest priorities for achieving a million Welsh speakers is making sure we have enough teachers to meet the demand for Welsh-medium learning.”
Rhaglen yn cynnig llwybr newydd i addysgu mewn ysgol uwchradd yng Nghymru
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi y bydd y Cynllun Pontio, sef rhaglen sy’n hyfforddi athrawon cynradd i fod yn athrawon uwchradd, yn parhau am y flwyddyn academaidd nesaf.
Mae’r Cynllun Pontio yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth i athrawon cynradd cymwys sy’n gallu siarad Cymraeg, fel y gallan nhw ddod yn athrawon uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Mae 20 lle ar gael o fis Medi ymlaen fel rhan o bedwaredd flwyddyn y rhaglen. Mae wedi helpu athrawon i ddatblygu eu gyrfaoedd a dod o hyd i swyddi parhaol mewn ysgolion uwchradd. Gall athrawon cynradd cymwys wneud cais yma.
Mae’r rhaglen yn helpu i gynyddu nifer yr athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn hanfodol er mwyn gwireddu ein huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Roedd Ffion yn athrawes gynradd ac fe welodd y Cynllun Pontio yn gyfle perffaith i gymryd y cam nesaf yn ei gyrfa. Mae bellach yn addysgu Cerddoriaeth a Chymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Wrth siarad am ei phrofiad ar y rhaglen, dywedodd Ffion:
“Mewn ysgol gynradd rydych chi gydag un grŵp blwyddyn ar y tro, a hynny am y flwyddyn gyfan. Fel athrawes uwchradd, mae gennym chwe gwers y dydd, felly rwy’n gweld chwe grŵp gwahanol o unigolion ac mae hynny wedi bod yn hyfryd iawn. Hefyd, rydych chi’n gallu arbenigo mewn pwnc – mae Cymraeg a Cherddoriaeth yn feysydd rwy’n eu mwynhau yn arw.
“Mae’r Gymraeg yn ffactor mor enfawr. Gyda’r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig fel cenedl bod gennym ni’r un nod. Yn enwedig mewn ysgol Gymraeg lle nad yw mwyafrif y dysgwyr, efallai, yn dod o gartref Cymraeg, mae’n hanfodol ein bod ni, athrawon, yn paratoi’r ffordd ac yn eu hysbrydoli nhw.
“Byddwn i’n argymell y Cynllun Pontio yn fawr, oherwydd, er ei fod yn anodd, mae’n werth yr ymdrech. Gyda’r mentoriaid a’r gefnogaeth gywir, mae unrhyw beth yn bosib.”
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Mae’r Cynllun Pontio yn gyfle gwerthfawr i unrhyw un sy’n awyddus i symud o addysgu cynradd i addysgu uwchradd. Un o’n blaenoriaethau mwyaf ar gyfer cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg yw sicrhau bod gennym ddigon o athrawon i ateb y galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.