Hywel Dda yn gosod fferm solar ar safle Parc Dewi Sant

MAE fferm solar gyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi’i gosod yn Hafan Derwen, sydd wedi’i lleoli ar safle Parc Dewi Sant. Mae’r 1,098 o baneli wedi’u gosod ar ardal sy’n gorchuddio ychydig dros un erw. Nod y cynllun fferm solar 450 KW yw darparu trydan a gynhyrchir ar y safle yn uniongyrchol i safle Hafan Derwen, yr amcangyfrifir y bydd yn arwain at arbedion carbon blynyddol o 120.43tCo2e, ynghyd ag arbedion ariannol. Mae’r tir o amgylch yn cael ei ddatblygu i wella bioamrywiaeth gan ddarparu man i staff orffwys ac ymlacio wrth gael eu hamgylchynu gan fywyd gwyllt a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar sut mae staff yn gweld…

You cannot copy any content of this page