Tocynnau ar werth nawr ar gyfer Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

Rydyn ni’n cyfri’r diwrnodau tan Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2026, a gallwch brynu tocynnau ymlaen llaw nawr ar gyfer y digwyddiad deuddydd ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt ddydd Llun 30 Tachwedd a dydd Mawrth 1 Rhagfyr.

Mae’r Ffair Aeaf, sy’n cael ei chydnabod fel un o brif sioeau stoc dethol Ewrop, yn dod â’r da byw, y bwyd, y cyfleoedd siopa a’r adloniant gorau at ei gilydd, gan ddenu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i fwynhau’r digwyddiad Nadoligaidd.

Mae yna amser o hyd i arddangoswyr da byw gystadlu, a bydd y ffenestr gofrestru ar agor tan ddydd Mercher 7 Hydref trwy wefan CAFC. Bydd y Ffair yn arddangos gwartheg, defaid, moch a cheffylau o’r radd flaenaf wrth i gystadleuwyr gystadlu am deitlau pencampwriaeth a thlysau uchel eu bri. Gall ymwelwyr deimlo gwefr yr arwerthiannau ar y diwrnod olaf, pan fydd enillwyr y gwobrau yn mynd o dan y morthwyl yng nghylchoedd y Sioe.

Ac mae yna gymaint yn fwy i’w weld ar ben y da byw, gyda chystadlaethau a dosbarthiadau sy’n cynnwys trefnu blodau, helgwn, dofednod wedi’u gwisgo, wyau a cholomennod, cigyddiaeth, hamperi cig, coginio, cynnyrch a chrefft.

Mae’r Ffair Aeaf hefyd yn lle poblogaidd i siopa ar gyfer Nadolig, gyda channoedd o stondinau masnach yn cynnig amrywiaeth eang o anrhegion, crefftau a chynnyrch unigryw. Ar y nos Lun, fe fydd Maes y Sioe ar agor yn hwyrach ar gyfer eich siopa Nadolig, cyn i’r diwrnod gau gydag arddangosfa dân gwyllt drawiadol gyda cherddoriaeth a thân, am 7pm.

Mae’r sbotolau ar fwyd a diod yn y Neuadd Fwyd, gyda gwledd o gynnyrch o Gymru, o gawsiau crefftus a nwyddau wedi’u pobi i ddanteithion ac anrhegion tymhorol.  Bydd ardal Gwledd | Feast hefyd yn dod â bwyd stryd Cymreig a chynhyrchwyr lleol at ei gilydd, gyda cherddoriaeth fyw ar lwyfan Gwledd trwy gydol y ddau ddiwrnod.

Cynhelir y Ffair Aeaf yn ystod y tymor ysgol, gan roi cyfle unigryw i blant ysgol a myfyrwyr coleg archwilio taith bwyd o’r fferm i’r fforc.  Bydd y rhaglen Gyrfaoedd yng Nghefn Gwlad hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddarganfod yr amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael ar draws y diwydiannau gwledig ac amaethyddol ac mewn diwydiannau sy’n seiliedig ar y tir,  tra bod Groto Siôn Corn yn ychwanegu ysgeintiad o hud y Nadolig ar gyfer y rhai bach. Rhaid i ysgolion, colegau a phrifysgolion gofrestru  ymweliadau eu grŵp erbyn 12 Hydref.

Bydd y Ffair Aeaf yn agor i’r cyhoedd am 8am ar y ddau ddiwrnod, gan gynnig dau ddiwrnod o dda byw, cystadlu, siopa, bwyd, adloniant a dathliadau Nadoligaidd.

Gallwch brynu tocynnau ymlaen llaw ar-lein nawr: £24 ddydd Llun, £22 ddydd Mawrth a £5 i blant (mae plant dan 5 oed am ddim). Gall aelodau CAFC hefyd fwynhau gostyngiadau unigryw.

Am y manylion yn llawn, i brynu tocynnau, i gofrestru da byw i gystadlu, neu i weld yr atodlenni, ewch i www.rwas.wales neu www.cafc.cymru.

Dechreuwch dymor yr ŵyl gyda thaith i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2026 – i ddathlu ffermio, bwyd ac ysbryd y Nadolig.

You cannot copy any content of this page