Ymunwch â’r Frwydr yn Erbyn y Ffliw y Gaeaf Hwn

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog pobl mewn grwpiau agored i niwed i fynychu eu hapwyntiadau brechlyn ffliw, er mwyn helpu i amddiffyn eu hunain, eu cymuned, a’r GIG y gaeaf hwn.

Anogir pobl ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gadw llygad am eu hapwyntiad brechu, a allai ddod o’u meddygfa, Tîm Imiwneiddio’r bwrdd iechyd neu fferyllfa gymunedol.

Gan fod achosion o ffliw eisoes wedi ymddangos yn yr ardal yr hydref hwn, mae’n bwysig eich bod yn mynychu eich apwyntiad i gael y brechlyn ffliw; mae hyn yn lleihau’n sylweddol y tebygolrwydd y bydd angen i chi fynd i’r ysbyty os byddwch yn dal y ffliw.

Cynghorir chi i gael brechlyn ffliw os ydych chi’n:

  • rhwng 2 a 3 oed (oedran ar 31 Awst 2026)
  • yn ddisgybl mewn ysgol gynradd neu uwchradd (o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11)
  • yn feichiog
  • yn 65 oed neu’n hŷn
  • rhwng chwe mis a 64 oed ac yn byw gyda chyflwr iechyd hirdymor sy’n golygu eich bod mewn mwy o berygl oherwydd y ffliw
  • yn byw neu’n gweithio mewn cartref gofal
  • yn weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol
  • yn ofalwr di-dâl
  • yn ofalwr cartref (gofalwr sy’n ymweld â chartrefi pobl)
  • yn ddigartref
  • yn gweithio gydag adar dof, gwartheg neu foch ac yn wynebu risg uchel

Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iach, gan ei bod yn fwy tebygol y byddwch yn dioddef cymhlethdodau oherwydd y ffliw os byddwch yn ei ddal.

Mae Tîm Nyrsio Ysgol y bwrdd iechyd yn cynnig y brechlyn i ddisgyblion o’r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 11, gyda Hywel Dda yn perfformio orau ymhlith byrddau iechyd Cymru ar gyfer y grŵp oedran hwn yn 2025/26.

Fodd bynnag, er i dros 100,000 o bobl – naill ai rhai rhwng 16 a 64 oed mewn grŵp sy’n agored i niwed, neu bobl dros 65 oed – dderbyn brechlyn am ddim y gaeaf diwethaf, ni wnaeth tua 40% o’r rhai oedd yn gymwys yn y grwpiau hynny wneud hynny.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Busnes a Gweithrediadau Strategol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bethan Lewis: “Mae data a ryddhawyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod mwy nag 800 o dderbyniadau i’r ysbyty yn gysylltiedig â’r ffliw wedi’u hosgoi ledled y wlad y gaeaf diwethaf, diolch i bobl yn cymryd y cam syml o gael eu brechlyn ffliw.”

“Er i dros 70% o bobl dros 65 oed yn ardal Hywel Dda dderbyn y brechlyn ffliw y llynedd, llai na hanner y rhai rhwng 16 a 64 oed sy’n agored i niwed – fel pobl â chlefydau anadlol cronig – a wnaeth hynny.

“Rydym yn annog pobl i fynychu pan gânt eu gwahodd i gael eu brechlyn ffliw. Mae’r achosion cynnar rydym eisoes wedi’u gweld yr hydref hwn yn dangos pa mor bwysig yw cael yr amddiffyniad ychwanegol hwnnw mor fuan â phosibl.

“Bydd hyn nid yn unig yn eich diogelu chi, ond hefyd eraill yn eich cymuned, ac yn ei dro yn helpu i leihau’r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd yn ystod cyfnod prysur y gaeaf.”

Am ragor o fanylion, ac i weld rhestr o’r grwpiau a fydd yn cael cynnig brechiad ffliw am ddim, ewch i https://biphdd.gig.cymru/brechu-ffliw-tymhorol/.

Os oes gennych gwestiwn ynglŷn â’ch apwyntiad, bydd dilyn y camau hyn yn eich helpu i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflymach:

  • Defnyddiwch y manylion cysylltu sydd wedi’u cynnwys yn eich llythyr gwahodd, os oes gennych un. Bydd y manylion hyn naill ai ar gyfer eich meddygfa neu ar gyfer ein Hyb Cyfathrebu.
  • Os ydych yn ffonio ein Hyb Cyfathrebu ar 0300 303 8322 (Opsiwn 1), defnyddiwch y cyfleuster galw yn ôl er mwyn osgoi gorfod aros ar y llinell.
  • Os ydych yn anfon e-bost at ein Hyb Cyfathrebu drwy ask.hdd@wales.nhs.uk, cynnwys eich enw llawn, eich dyddiad geni, eich cod post, ac enw’r brechlyn rydych yn holi amdano yn eich neges.

You cannot copy any content of this page