Ym mis Gorffennaf 2016 ysgrifennodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda at nifer o gleifion yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth, wedi i ymchwiliad mewnol ddarganfod bod cyn aelod o staff wedi edrych ar gofnodion ysbyty electronig mewn modd amhriodol.
Diswyddwyd yr unigolyn, a oedd yn nyrs, am dorri cyfrinachedd claf a gweithredu y tu allan i’w god ymddygiad proffesiynol ei hun yn ogystal â pholisïau’r Bwrdd Iechyd ar ddiogelu data a llywodraethu gwybodaeth. Yn ogystal, cyfeiriwyd y sefyllfa gan y Bwrdd Iechyd at y Comisiynydd Gwybodaeth i’w ymchwilio’n annibynnol.
Heddiw death yr achos i ben yn Llysoedd Barn Llanelli. Plediodd yr unigolyn yn euog dan Adran 55 y Ddeddf Diogelu Data 1998 i feddiannu gwybodaeth bersonnol heb ganiatâd y rheolwr data, a chafodd ddirwy am y weithred hon.
Dywedodd y Prif Weithredwr Steve Moore: “Rydym yn fodlon bod y Comisiynydd Gwybodaeth a’r Llys wedi cymryd camau priodol yn erbyn yr unigolyn dan sylw. Nawr bod yr ymchwiliad wedi dod i ben byddwn yn ysgrifennu eto at bob claf a effeithiwyd yn uniongyrchol gan y mater hwn i ymddiheuro ac i gynnig cefnogaeth bellach.
“Mae cyfrinachedd claf o’r pwys mwyaf i ni, ac ers y digwyddiad rydym wedi gosod cyfres o fesurau i gryfhau ein prosesau a gweithdrefnau llywodraethu gwybodaeth. Rydym yn gwybod bod hwn wedi bod yn achos trallodus i’r rhai hynny a effeithiwyd, a’n gobaith yw bod y camau a gymerwyd gennym yn dangos ein hymrwymiad parhaus i sicrhau ein bod yn atal rhywbeth tebyg rhag digwydd byth eto.”
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.