Mae Ysgol Bancffosfelen yn dathlu derbyn adroddiad arolygu rhagorol sy’n canmol gweledigaeth ac arweinyddiaeth gadarn y pennaeth, yn ogystal ag ymroddiad a medrusrwydd y staff sy’n cydweithio’n effeithiol i hyrwyddo lles, dysgu a datblygiad pob disgybl.
Mae’r arolygiad diweddar gan Estyn yn cyflwyno asesiad cadarnhaol iawn o Ysgol Bancffosfelen, gan ei disgrifio fel cymuned ofalgar, gynhwysol a theuluol lle mae disgyblion yn cael eu cefnogi i ffynnu. Canmolodd yr arolygwyr gwricwlwm eang ac ysgogol yr ysgol, gan nodi bod y staff yn gwneud defnydd bwriadus o’r amgylchedd dysgu y tu mewn a’r tu allan i ennyn chwilfrydedd a dychymyg y disgyblion. Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod partneriaethau effeithiol yr ysgol â’r Cylch Meithrin lleol, ei threfniadau diogelu cadarn a’r cyfleoedd gwerthfawr a ddarperir i ddisgyblion ddatblygu eu hyder, eu sgiliau arwain a’u hymdeimlad o gyfrifoldeb.
Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod disgyblion yn ffynnu yn y lleoliad presennol ac yn codi cwestiynau difrifol ynghylch y tybiaethau sy’n sail i’r ymgynghoriad ar y cynnig i gau Ysgol Bancffosfelen.
Yng ngoleuni’r dystiolaeth berthnasol a sylweddol hon, mae’r Corff Llywodraethol o’r farn bod y rhesymeg dros y cynnig wedi’i thanseilio’n sylfaenol ac mae’n galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i dynnu’r ymgynghoriad yn ôl.
Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Mr Andrew Barlow:
“Rydym yn hynod falch o’r adroddiad rhagorol hwn gan Estyn, sy’n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein staff, ein disgyblion, ein llywodraethwyr a chymuned ehangach yr ysgol. Mae’n portreadu ysgol lwyddiannus lle mae pob plentyn yn cael ei adnabod, ei gefnogi a’i annog i lwyddo, ac yn tynnu sylw at yr arweinyddiaeth gref, yr addysgu o ansawdd uchel a’r ethos gofalgar sy’n gwneud Ysgol Bancffosfelen yn lle mor arbennig i ddysgu a thyfu.
“Yn seiliedig ar y canfyddiadau hyn, mae ein neges yn glir: mae’r achos dros gau’r ysgol yn sylfaenol ddiffygiol, ac rydym yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i dynnu’r ymgynghoriad presennol yn ôl.”