Llafur yn Gwrthod Galwadau i Gynnall Cyfraith Ryngwladol a Chondemnio Sylwadau Trump ar Lanhau Ethnig

Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, wedi beirniadu Llafur yn y Senedd am wanhau galwadau ar Lywodraeth y DU i weithredu ar argyfwng Gaza a sicrhau heddwch cyfiawn a pharhaol.

Heddiw, arweiniodd Plaid Cymru ddadl yn y Senedd yn annog llywodraeth y DU i gefnogi gwaith y Llys Troseddol Rhyngwladol yn ei hymchwiliad i droseddau rhyfel, i roi terfyn ar allforion arfau i Israel yn unol â chyfraith ryngwladol, ac i gondemnio sylwadau’r Arlywydd Trump ar lanhau ethnig.

Yn flaenorol, arweiniodd y Senedd y galwadau am gadoediad ym mis Tachwedd 2023, sef un o’r seneddau cyntaf i wneud hynny. Ers hynny, mae dros 60,000 o farwolaethau Palestinaidd.

Wnaeth arweinydd Plaid Cymru hefyd erfyn ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gefnogaeth ddyngarol bellach, i gefnogi cymunedau yng Nghymru sydd â chysylltiadau Palesteinaidd ac Israelaidd, ac i sicrhau nad yw arian cyhoeddus Cymru yn cyfrannu at droseddau rhyfel.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Ni all Cymru, ac ni ddylai aros yn dawel yn wyneb anghyfiawnder mor ddwys. Mae dyletswydd arnom i godi llais, ac i ymuno ag eraill yn rhyngwladol i roi pwysau ar y rhai sydd â dylanwad uniongyrchol i’w ddefnyddio wrth geisio heddwch a chyfiawnder.

“Er ein bod yn croesawu cefnogaeth unedig y Senedd i rai o alwadau Plaid Cymru, rydym yn siomedig na wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru gefnogi galwadau i gynnal cyfraith ryngwladol trwy atal gwerthu arfau i Israel na chefnogi ein galwadau i gondemnio naratif peryglus a bygythiol Trump o lanhau ethnig.

“Mae Plaid Cymru yn glir bod gan bob un ohonom rôl i’w chwarae i sicrhau heddwch parhaol trwy ddatrysiad dwy wladwriaeth.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page