Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Cwtogi ar raglen samplu dŵr

MAE Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno na fydd y dŵr ar Draeth y Dwyrain, Porth Tywyn yn cael ei samplu mwyach gan y Cyngor Sir.

Gwnaed y penderfyniad i gwtogi ar raglen monitro dŵr y Cyngor – sef swyddogaeth anstatudol – yn ei gyfarfod ar ddydd Llun (Hydref 23 2017).

Mewn adroddiad a roddwyd gerbron yr Aelodau gan Robin Staines, Pennaeth Tai, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Darparwyr, dywedwyd bod samplu ond yn rhoi cipolwg ar ansawdd y dŵr ar yr adeg benodol y cymerir y sampl.

Gan ei bod hi’n cymryd 48 awr, o leiaf, i gael canlyniadau i’r profion mewn labordy, mae’r canlyniadau ond yn berthnasol i sefyllfa’r dŵr rai dyddiau ynghynt. Yn achos Porth Tywyn, sef moryd lle mae ansawdd y dŵr yn newid yn gyflym gyda’r llanw, gall y canlyniadau fod yn gamarweiniol.

Cyn y penderfyniad, roedd dŵr yn cael ei samplu yn Nhraeth y Dwyrain, Porth Tywyn a Doc y Gogledd, Llanelli, sef dau draeth nad ydynt wedi’u dynodi’n ffurfiol ond sy’n hysbys fel mannau poblogaidd ar gyfer ymdrochi yn y dŵr.

Bydd Doc y Gogledd yn parhau i gael ei samplu am ei fod yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd ar gyfer chwaraeon a hamdden ac oherwydd nad effeithir arno gan lif y llanw.

Ni fydd y penderfyniad hwn yn effeithio ar y traethau a ddynodwyd ar gyfer ymdrochi yn Sir Gaerfyrddin – Pentywyn a Chefn Sidan, Pen-bre –  oherwydd maen nhw’n cael eu monitro’n wythnosol gan Gyfoeth Naturiol Cymru rhwng mis Mai a mis Medi.

Nid yw’r traethau eraill nad ydynt wedi’u dynodi yn y sir yn cael eu samplu oherwydd ni ddylai nofwyr fynd ar eu cyfyl gan fod problemau hysbys ag ansawdd y dŵr, cerrynt cryf, banciau tywod a fflatiau llaid.

Cytunodd Aelodau’r Bwrdd Gweithredol y dylid adolygu’r arwyddion a geir ar draethau o amgylch y sir, gan gyfeirio nofwyr at draethau sydd wedi’u dynodi ar gyfer ymdrochi. 

I wylio’r ddadl lawn a chael golwg ar y dogfennau sydd ar agenda’r drafodaeth hon yn y Bwrdd Gweithredol, ewch i’r adran sy’n ymwneud â’r Cyngor a democratiaeth ar wefan y Cyngor – www.sirgar.llyw.cymru


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page