Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Hywel Dda – wedi ariannu offer newydd gwerth £14,850 sy’n darparu un o’r triniaethau mwyaf effeithiol ar gyfer lymffoedema.
Mae lymffoedema yn gyflwr gydol oes a all effeithio ar bob oed. Mae’r achosion yn niferus, ond maent yn cynnwys triniaethau canser, anaf, a gordewdra, sy’n achosi hylif i gasglu yn y croen. Gall y chwydd cronig hwn fod yn boenus ac arwain at golli symudiad.
Yn y llun, o’r chwith i’r dde, gyda pheiriant LymphaTouch, aelodau o Dîm Ceredigion Emma Driscoll, Arweinydd Clinigol; Andrea Graham, Arweinydd Gwasanaeth; a Gwawr Ward, Addysgwr Clinigol – Lymffoedema.
Yn flaenorol, dim ond un peiriant LymphaTouch oedd gan wasanaeth lymffoedema Hywel Dda. Mae’r cyllid elusennol wedi talu am dri pheiriant LymphaTouch newydd a chyfoes, sy’n golygu bod y dechnoleg ddiweddaraf bellach ar gael ar draws rhanbarth Hywel Dda i gyd.
Dywedodd Andrea Graham, Arweinydd Gwasanaeth Lymffoedema’r bwrdd iechyd: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod rhoddion gan y cyhoedd wedi ein galluogi i brynu’r tri pheiriant Lymffoedema.
“Mae’r offer hwn yn darparu’r dechnoleg ddiweddaraf sy’n galluogi’r therapydd i weithio’n fwy effeithlon a’r claf i gyflawni canlyniadau pendant yn gyflymach.
“Mae’r peiriannau’n gweithio trwy roi pwysau negyddol ar y croen. Maent yn gludadwy ac felly’n haws i staff eu defnyddio ac yn fwy abl i gael mynediad at rannau o’r corff yr effeithir arnynt.
“Mae argaeledd y dechnoleg hon ym mhob un o’n siroedd yn golygu y gallwn ddarparu gwasanaeth teg a gwell i gleifion ar draws rhanbarth Hywel Dda.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.