Hen linell reilffordd yn cael ei thrawsnewid yn llwybr cerdded a beicio newydd

MAE plant ysgol a grwpiau beicio lleol wedi helpu i agor llwybr cerdded a beicio newydd sbon yn Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe newydd orffen ei ychwanegiad diweddaraf at rwydwaith cynyddol o lwybrau cerdded a beicio’r ddinas – y tro yma, drwy ddefnyddio hen linell reilffordd sy’n rhedeg rhwng Pengelli a Phontarddulais.

Ariennir y cynllun drwy raglen Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a’i nod yw darparu llwybr sydd oddi ar y ffordd yn gyfan gwbl o Bontarddulais yng ngogledd Abertawe, yr holl ffordd i fae Abertawe.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd:

“Mae’r llinell reilffordd wedi diflannu ers tro ac mae’r llwybr wedi’i orchuddio â thyfiant ac yn anhygyrch i’r cyhoedd.

“Mae’r ychwanegiad diweddaraf hwn at ein rhwydwaith cerdded a beicio wedi’n galluogi i ailagor y llwybr hwn a darparu llwybr oddi ar y ffordd gwych y gall pawb ei fwynhau.”

Ymunodd yr elusen feicio – Sustrans Cymru – â’r cyngor a phlant o ysgolion lleol i ddathlu agoriad y llwybr.

Llun: Google

Meddai Patrick Williams, Pennaeth Lleoedd Iachach:

“Mae Sustrans Cymru yn croesawu’r llwybr teithio llesol newydd hwn a fydd yn gwasanaethu pobl Pontarddulais a’r ardal gyfagos.

“Mae o ganlyniad i waith pwysig, gwych a wnaed gan Gyngor Abertawe a’u Tîm Trafnidiaeth ymroddedig ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth â hwy i’w gwneud yn haws i bobl gerdded, mynd ar olwynion a beicio.

Mae teithio llesol yn arwain at fywydau iachach a hapusach, felly mae cyflwyno isadeiledd newydd sy’n cefnogi ac yn annog hynny ledled Cymru yn rhywbeth cadarnhaol.”

Yn gynharach yn y flwyddyn, derbyniodd y cyngor ei setliad Teithio Llesol diweddaraf gan LlC, gan wneud cais llwyddiannus am dros £7 miliwn a gaiff ei fuddsoddi mewn rhagor o lwybrau cerdded a beicio yn Abertawe.

Mae llwybr newydd 2.4km ar draws Comin Clun a fydd yn cysylltu pentref Llandeilo Ferwallt â llwybr cerdded a beicio newydd ei gwblhau ar Mayals Road wedi’i gynnwys yn y cynlluniau.

Caiff llwybrau newydd hefyd eu datblygu yng ngogledd y ddinas, gan gynnwys llwybr newydd 2.8km rhwng Penllergaer a Fforest-fach. Datblygwyd y llwybr a rennir oddi ar y ffordd, 3 metr o led ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Penllergaer. Bydd y llwybr newydd yn cysylltu â rhan bresennol o isadeiledd cerdded a beicio a adeiladwyd yn flaenorol ar hyd yr A48 a bydd yn darparu cysylltiad newydd i’r de â Melin Cadle.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stevens:

“Unwaith eto, mae Abertawe wedi llwyddo i sicrhau cyllid pwysig rydym am ei fuddsoddi yn ein rhwydwaith trafnidiaeth yn y ddinas.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn am nifer o flynyddoedd, yn creu llwybrau cerdded a beicio newydd sy’n rhoi ffyrdd amgen i breswylwyr ac ymwelwyr deithio o gwmpas y lle, heb orfod defnyddio car.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page