Gweinidog Economi Cymru’n mynnu bod Llywodraeth y DU yn ymyrryd i ostwng prisiau ynni a thanwydd i fusnesau

MAE Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething yn mynnu bod Llywodraeth y DU yn gweithredu ar unwaith i leihau cost cynyddol ynni a thanwydd ar fusnesau ledled Cymru.

Daw’r alwad cyn i nifer o filiau ynni masnachol godi mwy na phedair gwaith yr hydref hwn.

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi galw’n gyson ar Lywodraeth y DU i weithredu drwy gyflwyno mesurau a fydd yn helpu i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng hwn.

Ers mis Tachwedd 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r holl ysgogiadau ariannol sydd ar gael i ddarparu pecyn o fesurau i gefnogi aelwydydd ledled Cymru i ddelio â’r argyfwng.

Bydd y Gweinidog yn cynnull cyfarfod brys gyda chynrychiolwyr busnes Cymru yn hwyrach heddiw, i glywed yn uniongyrchol am y pwysau y mae nhw’n ei wynebu.

Fodd bynnag, dim ond Llywodraeth y DU sydd â’r dulliau sy’n angenrheidiol i ddarparu’r amddiffyniad i fusnesau ar unwaith.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

“Mae’r argyfwng costau byw sy’n digwydd yn y DU yn cael effaith sylweddol ar deuluoedd ledled y wlad. Rydym hefyd yn wynebu argyfwng costau busnes, gyda busnesau ledled Cymru’n wynebu pwysau cynyddol annioddefol oherwydd biliau ynni a thanwydd yn codi’n aruthrol.

Ein busnesau yw anadl einioes ein cymunedau. Maen nhw’n darparu’r swyddi y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw am eu bywoliaeth. Fel Gweinidog Economi Cymru, fy mlaenoriaeth ar hyn o bryd yw gwneud yr hyn a allaf i ddiogelu ein heconomi a’r bobl sy’n gweithio oddi mewn iddo.

Dyna pam rwy’n mynnu bod Llywodraeth y DU yn camu i’r adwy ac yn gweithredu ar unwaith nawr, trwy ddefnyddio’r pwerau sydd ganddyn nhw yn unig i ymyrryd yn yr argyfwng hwn. Rhaid iddyn nhw gyflwyno mesurau i leihau chwyddiant a darparu’r cymorth ychwanegol sylweddol sydd ei angen ar bobl a busnesau.

Oni bai eu bod yn gweithredu nawr, maen nhw mewn perygl o achosi niwed sylweddol i economi Cymru. Ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd.”

Yn 2022-23, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi busnesau bach a chanolig drwy ddarparu £116 miliwn o gymorth trethi annomestig wedi’i dargedu i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru‘n cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth fydd yn helpu busnesau sy’n dioddef pwysau ariannol dros y misoedd nesaf.  Mae’r Gwasanaeth yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr ar-lein a thrwy weithdai a chyngor personol ar bynciau gan gynnwys cyflogaeth a chyllid.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page