Arglwydd Faer Abertawe yn dweud ‘diolch’ i’n holl arwyr Gemau’r Gymanwlad

CAFWYD noson ddisglair yn y Plasty neithiwr wrth i’r Arglwydd Faer, Mike Day, gynnal derbyniad dinesig ar gyfer arwyr Gemau’r Gymanwlad ein dinas.

Mae athletwyr o’r ddinas wedi helpu i fod yn asgwrn cefn i dîm Cymru a enillodd 28 medal, gan gynnwys 8 medal aur, 6 medal arian a 14 medal efydd yn y Gemau yn Birmingham fis diwethaf.

Roedd mwy na 50 o gynrychiolwyr o Abertawe wedi gwisgo lliw coch Cymru yn Birmingham i gystadlu mewn llawer o gampau gan gynnwys Hoci, Reslo, Athletau, Nofio, Pêl-rwyd, Rygbi 7 Bob Ochr, Tennis Bwrdd, Bowls Lawnt, Treiathlon, Beicio Trac a Gymnasteg.

Roedd llawer ohonynt yn y Plasty neithiwr, ac yn eu plith roedd y mabolgampwraig enwog a Phencampwraig Treiathlon y Byd, Non Stanford, a enillodd y wobr arian yn Nhreiathlon y Ras Gyfnewid Gymysg.

Meddai’r Arglwydd Faer y Cynghorydd Mike Day, a gynhaliodd dderbyniad dydd Llun yn y Plasty, “Pe bai Abertawe’n wlad, byddwn wedi gorffen yn y 28ain safle ar y tabl medalau terfynol, gan drechu Ghana, Ffiji a Mozambique.

Meddai’r Cynghorydd Day, “Mae pawb yn Abertawe’n falch o gyflawniadau anhygoel yr holl gystadleuwyr o Abertawe. Maent yn ysbrydoliaeth go iawn i bob un ohonom a bydd derbyniad dinesig yn gyfle gwych i’r ddinas eu hanrhydeddu. Maen nhw’n wir ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o athletwyr.”

Mae Non Stanford, enillydd medal aur a enwyd yn Bencampwr Treiathlon Ewropeaidd yn Munich yn ddiweddar, yn esbonio pa mor bwysig yr oedd iddi gymryd rhan mewn chwaraeon yn ei dinas enedigol, Abertawe.

“Roedd sefyll ar bodiwm yng ngemau’r Gymanwlad a gwylio pobl yn chwifio baner Cymru yn freuddwyd oes i mi. Roedd hi’n wych cael gwneud hynny fel rhan o dîm hefyd. Dathlom yr eiliad honno gyda’n gilydd, a bydda i byth yn ei hanghofio.

“Dwi bob amser wedi ymfalchïo yn y ffaith fy mod i’n dod o Gymru, ac rwy’n falch iawn hefyd fy mod i wedi cael fy magu yn Abertawe. Mae’r clybiau gwych sydd gennym yma yn y ddinas yn rhan fawr o’m llwyddiant.”

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page