£4.85m ar gyfer Bwyd a Hwyl yr haf hwn

BYDD gwledd o sesiynau yn darparu prydau bwyd iach a gweithgareddau addysgol i blant a phobl ifanc ar gael eto’r haf hwn drwy’r rhaglen Bwyd a Hwyl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu hyd at £4.85 miliwn ar gyfer darparu Bwyd a Hwyl, a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) mewn ysgolion yn ystod gwyliau’r haf. Mae’r sesiynau yn cynnig brecwast a chinio iach i blant a phobl ifanc, yn ogystal â gweithgareddau ymarfer corff a sesiynau cyfoethogi, a gwybodaeth am fwyd a maeth.

Nod y cynllun yw rhoi cymorth i blant a phobl ifanc o ardaloedd difreintiedig. Disgwylir y bydd y cyllid yn darparu tua 8,000 o leoedd eleni ar draws 200 o garfannau. Mae hefyd ddarpariaeth ar gyfer cymorth i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol fel rhan o’r cynllun, gan gynnwys cymorth 1:1.

Mae gwaith gwerthuso a gynhaliwyd ar y cynllun mewn blynyddoedd blaenorol wedi dangos bod y sesiynau hyn wedi helpu i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc yn yr ysgol, ac wedi gwella llesiant cyffredinol y plant a’r bobl ifanc hynny sy’n dod iddynt.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Mae’r gwyliau haf hir yn gallu bod yn heriol i rai pobl am wahanol resymau. Mae’n bwysicach byth ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc. Rydym yn gwybod bod rhai dysgwyr yn ei chael hi’n anodd y tu allan i drefn yr ysgol, a bod teuluoedd o dan bwysau oherwydd yr argyfwng costau byw.

Mae’r cynllun Bwyd a Hwyl yn gwneud y gorau o gyfleusterau ysgolion drwy gynnig gweithgareddau sy’n hwyl yn ogystal â phrydau bwyd iach. Gall hefyd chwarae rôl wrth helpu plant mewn ardaloedd difreintiedig i adfer o effaith y pandemig drwy gefnogi eu llesiant a’u haddysg.

Rydym yn awyddus i bob ysgol yng Nghymru fod yn Ysgol Fro sy’n ymateb i anghenion ei chymuned ac yn meithrin partneriaethau cryf â theuluoedd a gwasanaethau eraill. Mae Bwyd a Hwyl yn enghraifft wych o hyn, gan ddarparu prydau bwyd iach a gweithgareddau i blant wrth ymgysylltu â’r gymuned ehangach ar yr un pryd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Ian Roberts, llefarydd Addysg CLlLC:

“Mae CLlLC yn falch iawn o gynnal Bwyd a Hwyl ar ran Llywodraeth Cymru, sef rhaglen sy’n cefnogi teuluoedd yn ystod gwyliau’r haf, sy’n gallu fod yn gyfnod heriol i nifer o deuluoedd yng Nghymru.

Mae’r rhaglen, sy’n rhedeg am yr wythfed flwyddyn eleni, wedi mynd o nerth i nerth ers cael ei lansio, ac mae bellach yn cefnogi mwy o deuluoedd nag erioed ledled Cymru i sicrhau deiet cytbwys a iach.

Yn ystod gwyliau’r haf eleni, bydd Bwyd a Hwyl yn darparu lleoedd i 8000 o blant bob dydd, sef hyd at 96,000 o gyfleoedd posibl i blant fynychu’r sesiynau ledled Cymru.

Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyllido’r cynllun, ac i’r holl bartneriaid yn y gwahanol awdurdodau lleol sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod y rhaglen hon yn digwydd, ac yn llwyddo.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page