Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Ymateb Llywodraeth Cymru i data perfformiad diweddaraf GIG Cymru

MAE Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth:

“Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud i leihau’r amseroedd aros hwyaf. Am y trydydd mis yn olynol, lleihaodd nifer y llwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd ac roedd 12% yn is ym mis Mehefin na’r uchafbwynt ym mis Mawrth.

Cynhaliwyd bron i 343,000 o ymgyngoriadau â chleifion gan y GIG yng Nghymru ym mis Mehefin o ran pobl yn mynd i adrannau achosion brys, cleifion allanol a chleifion mewnol/achosion dydd. Hefyd ym mis Mehefin caewyd ychydig dros 88,000 o lwybrau cleifion, sy’n gynnydd sylweddol o gymharu â chyfnodau cynnar y pandemig ac mae’n 4% yn uwch na’r ffigur ar gyfer yr un mis yn 2021. Yn ogystal, yn y mis diweddaraf, lleihaodd yr amser cyfartalog yr oedd cleifion yn aros am driniaeth, o 22.6 wythnos i 21.6 wythnos.

O ran gwasanaethau diagnostig hefyd, roedd pobl yn aros llai o amser i gael eu gweld na’r mis blaenorol. Yr amser aros cyfartalog ym mis Mehefin ar gyfer profion diagnostig oedd 5.6 wythnos, sydd wedi gostwng o 5.7 wythnos yn y mis blaenorol.

Mae gwasanaethau diagnostig yn un o’r meysydd sydd wedi elwa o’r £1 biliwn a fuddsoddwyd yn yr adferiad ôl-bandemig. Lleihaodd nifer y llwybrau sy’n aros mwy na 14 wythnos am therapïau ym mis Mehefin hefyd.

Caewyd mwy o lwybrau canser ym mis Mehefin na’r mis blaenorol ar ôl i fwy o gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Hefyd, cynyddodd perfformiad rywfaint o ran y targed 62 diwrnod o gymharu â mis Mai. Mae gwelliannau sylweddol wedi bod mewn gwasanaethau’r fron dros y ddau fis diwethaf gyda ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys cyflwyno clinigau ar y penwythnos a byrddau iechyd yn cefnogi ei gilydd i weld cleifion.

Mae galw mawr o hyd am ofal mewn argyfwng, gyda bron i 92,000 yn mynychu adrannau achosion brys yng Nghymru, a’r lefel uchaf o alw erioed o ran galwadau am ambiwlans lle mae bywyd yn y fantol. Er hyn, mae’r mwyafrif o gleifion yn parhau i gael mynediad amserol at y gofal y mae arnynt ei angen, gyda’r amser cyfartalog y mae pobl yn aros i gael eu gweld yn lleihau.

Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng. Mae cyllideb flynyddol gwerth £25 miliwn yn cefnogi’r Rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, a lansiwyd yn gynharach eleni, a gwnaethom gyhoeddi’n ddiweddar £3 miliwn ychwanegol i gynyddu capasiti ambiwlans argyfwng drwy recriwtio rhwng 100 a 150 o aelodau o staff rheng flaen ychwanegol.

Yn sgil yr heriau sylweddol y mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi’u hwynebu, mae prif weithredwyr GIG Cymru wedi cytuno ar gynllun gwella cenedlaethol ar gyfer ambiwlansys i gymryd camau gweithredu amrywiol i roi cymorth gwell i reolaeth o’r galw am wasanaethau 999 yn y gymuned, cynyddu capasiti o ran ambiwlansys, gwella’r ymateb i bobl â chwynion sensitif o ran amser a throsglwyddiadau cleifion ambiwlans. Rydym wedi dechrau gweld gwelliant mewn perfformiad o ran trosglwyddo cleifion ambiwlans mewn rhai ardaloedd. Bydd hyn yn helpu i wella profiad a chanlyniadau cleifion, a rhyddhau capasiti ambiwlansys i ymateb i alwadau brys yn y gymuned.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page